Skip to main content

Bethan & Dan Jones: 'Bragdy Cybi ydan ni' (2021)

Disgrifiadau

Lede
Dyma'r stori am fragdy meicro Caergybi.

Stori
Dan a Bethan Jones ydan ni a ni yw perchnogion Bragdy Cybi, bragdy micro yng Nghaergybi. Mudo ni i Gaergybi yn 2006 pan gafodd Dan ei adleoli hefo’i waith. Colli ei swydd yn 2019 oedd catalyst i ni fynd yn hunangyflogedig a sefydlu Bragdy Cybi. Heb fath o gefndir na phrofiad mewn bragu, aeth Dan ati i ddysgu’r grefft. Buom ni’n manteisio ar gyrsiau amrywiol gan Fusnes Cymru a Chywain cyn mynd amdani a thrawsnewid adeilad yn Stryd Williams Caergybi, yn fragdy bach a siop.

Roeddem wedi buddsoddi holl arian ‘redundancy’ Dan i brynu offer ac i ailwampio’r adeilad gyda phlymio a gwaith trydan. Roedd gennym ni bedwar ffyrmentar 160 litr yn llawn cwrw crefft pan ddaeth y cyfnod clo gyntaf. Diflannodd ein cynlluniau i fynychu ffeiriau a marchnadoedd yn 2020 ond drwy lwc, roedd gennym yr hawl i agor drws y siop i gwsmeriaid.

Drwy gydol 2020, er gwaetha’r pandemig a’r cyfnodau clo, roedd Bragdy Cybi yn mynd o nerth i nerth ac yn cael cefnogaeth wych. Ar adegau, roeddem yn rhedeg allan o gwrw’n gyfan gwbl.

Erbyn Rhagfyr 2020, roedd rhaid i ni gysidro ehangu er mwyn cynhyrchu digon o gwrw crefft i gyrraedd gofyn lleol ac er mwyn gwerthu i fasnach. Gan ddefnyddio cyfuniad o broffid, benthyciadau, grantiau a rhoddion drwy Crowdfunder, aethom ati i brynu offer bragdy mwy a symud y cynhyrchu i uned ar stad ddiwydiannol yng Nghaergybi.

Erbyn hyn, mae’r offer bragu newydd yn ei le ac rydym yn barod i botelu’r batsh gyntaf o gwrw oddi yno. Yn y cyfamser, mae gennym gynlluniau i ehangu’r siop ar y stryd fawr i werthu cwrw crefft gan fragdai meicro eraill Cymreig a hefyd gins lleol o Fôn. Rydym yn bwriadu cynnal ystafell dap achlysurol ar y safle newydd ynghyd â phrofiadau bragu gyda’r bragwr, sesiynau blasu a sgyrsiau difyr. Rydym yn gobeithio’n arw gallu helpu i roi stryd fawr Caergybi yn ôl ar y map am y rhesymau iawn!

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Bethan & Dan Jones
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
401
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment