Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganed Ann Hughes yng Nghricieth a'i bedyddio yn eglwys Llanystumdwy ar Awst 19eg 1827. Roedd ei thad Griffith Hughes o'r plwyf hwnnw a'i mam oedd Rebecca Roberts o Aberdaron. Roeddent wedi symud i Gricieth rywbryd ar ôl 1813. Yn y cyfrifiadau disgrifiwyd Griffith fel labrwr amaethyddol ac yn ddiweddarach, tra'n byw yn Pencei, cariwr cyffredin.
Yn 1849 priododd Ann ag Emanuel Jones , morwr, a bu'n byw mewn nifer o fythynnod o gwmpas y dref. Erbyn 1881 roedd hi'n byw yn Abermarchnad. Yn y dyddiau hynny byddai gweddwon neu wragedd morwyr oedd i ffwrdd ar y môr yn aml yn trwsio rhwydi neu’n gwerthu pysgod i wneud bywoliaeth ac mae’n debyg mai dyma sut y daeth i gael ei hadnabod fel Nansi Penwaig.
Bu i Ann ac Emmanuel bump o blant; Rebecca (1849), William (1852), Elen (1855), Ann (1855) ac Elizabeth (Lizzie) (1866). Priododd Rebecca â gweithiwr ffowndri a symud i Borthmadog, daeth William yn Gapten môr, bu farw Elen yn blentyn, Ann arhosodd gartref a phriododd Lizzie â John Lloyd Williams, prifathro ysgol gynradd Garn Dolbenmaen.
Symudodd y teulu yn fuan i dŷ mwy ar Stryd y Castell o’r enw Tŷ Mawr. Daeth hon yn siop gwerthwyr pysgod ac fe’i nodir yn ddiweddarach fel 5 Stryd y Castell. Mae hyn yn ddryslyd gan fod bwthyn o'r un enw ar draws y ffordd. Teulu cerddorol oeddynt a daeth y cartref yn boblogaidd iawn fel man ymgynnull ar gyfer nosweithiau cerddorol. Roedd Lizzie yn dalentog iawn a daeth yn gantores adnabyddus ledled Gogledd Cymru. Edmygid hi gan y David Lloyd George ieuanc oedd yn aelod o'r un gynulleidfa yng Nghapel Berea.
Yn y nosweithiau cerddorol hyn canwyd caneuon ac alawon gwerin draddodiadol Gymreig, llawer wedi cael eu trosglwyddo ar lafar o un genhedlaeth i'r llall. Un o'r mynychwyr cyson oedd John Lloyd Williams, yr athro o'r Garn a briododd Lizzie yn 1892. Yn 1897 symudasant i Fangor lle bu'n ddarlithydd Botaneg yn y brifysgol ac ysgrifennodd nifer o bapurau gwyddonol. Roedd hefyd yn adnabyddus am ei ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth werin Gymreig a thrawsgrifiodd a chyhoeddodd lawer o ganeuon traddodiadol. Un oedd y gân adnabyddus “Tra bo dau” yr oedd Lizzie ag Ann wedi eu dysgu gan eu tad Emanuel. Yn 1906 yr oedd John Lloyd Williams yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru.
Bu Emanuel farw ar y môr yn 1891 a bu farw Nansi 16eg o Ebrill 1895 ac mae wedi ei chladdu yng Nghapel Pen y Maes Cricieth. Mae John Lloyd Williams a Lizzie wedi eu claddu ym mynwent Mynydd Ednyfed. Parhaodd 5 Stryd y Castell i fod yn siop werthwyr pysgod, o dan wahanol berchnogion hyd at gof byw ac mae wedi bod yn siop pysgod a sglodion ers blynyddoedd lawer.

Tra bo dau
Mae'r hon a gâr fy nghalon i
Ymhell oddi yma'n byw;
A hiraeth am ei gweled hi
A'm gwnaeth yn llwyd fy lliw.

Cyfoeth nid yw ond oferedd,
Glendid nid yw yn parhau;
Ond cariad pur sydd fel y dur
Yn para tra bo dau.

O'r dewis hardd ddewisais i
Oedd dewis lodes lân;
A chyn bydd 'difar gennyf fi
O rhewi wnaiff y tân.

Mae f'annwyl riain dros y lli,
Gobeithio'i bod hi'n iach!
'Rwy'n caru'r tir lle cerddo hi
Dan wraidd fy nghalon fach.

Delwedd 2. Siop Nansi Penwaig yn y blynyddoedd diweddarach

FFfynonellau.
Journal of the Welsh Folk Song Society: 'Caneuontraddodiadol y Cymry' selected and edited by W. S. Gwynn Williams, published 1961 by The Gwynn Publishing Co. Llangollen, N Wales (G.P.C. 8403)
Y Bywgraffiadau CymreigLlGC
Papurau Newydd Cymru LlGC
Tom David - Dating Old Welsh Houses - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw