Disgrifiad

Cricieth – Cofio’r ffilm Hedd Wyn.
Noson 7fed Tachwedd 2018 yn y Neuadd Goffa Cricieth, cyfle arbennig i goffau’r rheini a gollwyd yn y rhyfel yng nghwmni sêr “Hedd Wyn” (Huw Garmon, Judith Humphreys, Ceri Cunnington, Llio Silyn, Grey Evans)- rhai ohonynt fydd yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf ers ffilmio, i rannu eu profiadau o fod yn rhan o’r ffilm (1992). Gafodd y ffilm enwebiad am Oscar; mae’n hanes ysgytwol am Ellis Evans, Trawsfynydd, bardd y Gadair Ddu Eisteddfod Penbedw 1917 ar ôl methu â dychwelyd o ffosydd y Rhyfel Byd 1af.
Ffotograffau gan Terry Mills

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw