Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

'Capten' Edward Tupper yn annerch y dorf yn Nociau Bute, Caerdydd, yn ystod streic y Morwyr ym 1911.

'Yr Aflonyddwch Mawr' yw'r enw a roddir ar y cyfnod rhwng 1908 a 1914, pan fu nifer o anghydfodau diwydiannol ym Mhrydain. Yn ne Cymru, aeth glowyr cwmni'r Cambrian Combine ar streic, gan wrthdaro gyda'r fyddin yn Nhonypandy ym 1910. Yn Llanelli ym 1911 aeth pethau'n flêr rhwng y fyddin a'r gweithwyr rheilffyrdd lleol a oedd wedi ymuno yn y streic rheilffyrdd genedlaethol. Arweinodd y ffrwgwd rhwng y ddwy garfan at farwolaeth chwech o bobl, dau ohonynt o ganlyniad i ergydion a daniwyd gan y milwyr.

Yn ystod haf 1911, ymledodd streic gan forwyr Lerpwl i ddociau a phorthladd Caerdydd. Un o arweinwyr yr anghydfod oedd gŵr o'r enw 'Capten' Edward Tupper, a welir yma yn annerch morwyr Caerdydd yn ardal y dociau. Er mwyn ceisio cadw'r porthladd ar agor a dod â'r streic i ben, penderfynodd y cyflogwyr gyflogi tramorwyr. Yn achos Caerdydd, aethant ati i gyflogi nifer fawr o forwyr Tsieineaidd, gan gynnig cyflog llawer gwell iddynt na'r hyn a oedd yn gael ei dalu fel arfer i'r streicwyr. Dioddefodd y morwyr Tsieineaidd nifer o ymosodiadau, yn eiriol a chorfforol, am eu rhan yn yr anghydfod ac ymledodd y trafferthion wrth i nifer o gartrefi a busnesau Tsieineaidd Caerdydd gael eu targedu gan y streicwyr a'u cefnogwyr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw