Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Wrth geisio dulliau amgen i ddefnydd amaethyddiaeth gonfensiynol o gemegau, mae'r ffermwr James Williams yn egluro'i ddull o wella ansawdd ei bridd drwy dechnegau ffermio naturiol.

Yr hyn sy'n ganolog i egwyddorion ffermio naturiol yw eich bod yn cael micro-organebau o ardaloedd coetirol digyffwrdd, a mannau tebyg. 'Dych chi'n dod â rhain yn ôl a'u lluosogi ac yna'u gwasgaru ar draws y tir.

A dyma'r bocsys casglu. Felly, beth 'dych chi'n ei wneud yw llenwi'r bocs â reis, mynd i'r goedwig, dod o hyd i ffyngau, y myseliwm ar y llawr sydd fel gwreiddiau'r ffyngau.

A 'dych chi'n gosod y bocs ar hwnnw, ei adael am tua wythnos a bydd y ffyngau'n tyfu i fyny i'r reis ac fe welwch chi rywbeth tebyg i wawr ffyngaidd yn y bocs. 'Dych chi'n dod â hwnnw'n ôl ac yn oedi'r tyfiant yn y bôn drwy ychwanegu siwgr ato.

A dyna sydd gennych ar ôl wedyn. Ac yna beth gallwch chi ei wneud yw mynd â llond dwrn ohono fe', rhoi bwyd iddo a thyfu hwnnw eto, ei gymysgu â dŵr, rhoi aer iddo a'i wasgaru ar y tir.

Ac mae hynny'n ffermio sydd i ryw raddau'n 80% yn naturiol. Mae'r hyn ‘dych chi'n ei wneud yn ailboblogi microbau'r pridd. Ond mae e hefyd yn ymwneud ag amrywiaeth yn ogystal ag ailboblogi. Rhoi microbau amrywiol yn ôl i mewn i'r pridd, y microbau 'dyn wedi'u colli yn y bôn drwy arferion rheoli gwael ar hyd y blynyddoedd.

 

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw