Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Mae Rob Morgan yn ffermwr pumed genhedlaeth ac mae wedi datblygu’r fferm deuluol yn brofiad Nadolig Cymreig poblogaidd - Fferm Gower Fresh Christmas Tree Farm - gyda blodau'r haul, lafant a phwmpenni i ddenu ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn. Wrth sefyll ymysg ei yr o geirw Llychlyn, mae'n siarad am sut roedd y profiad o golli’i dad i hunanladdiad ym 1999 wedi’i ysgogi i greu ymagwedd newydd at ffermio, ac mae'n rhannu’i feddyliau am rai o'r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu.
Pumed genhedlaeth. Roedd y fferm yn arfer bod yn un gymysg. Yn amlwg, roedd gennym ddefaid, gwartheg, cnydau âr, cnydau llysiau. Flynyddoedd yn ôl roedd gennym ein lladd-dai ein hunain a phethau felly. Felly, ydy, mae'r fferm wedi lleihau rhywfaint mewn maint ond mae'n tyfu'n araf gyda'r cnydau sydd gennym y tu ôl i ni fan hyn. Coed Nadolig, pwmpenni, blodau haul, lafant. Dw i ddim yn siŵr beth byddai fy nghyndadau neu deidiau'n meddwl am y cnydau amrywiol rydym yn eu tyfu, ond yn amlwg, er mwyn dal ati i ffermio neu hyd yn oed i gadw fy hun yma, roedd yn rhaid i fi newid pethau, i addasu a goroesi i fod yn ffermwr heddiw, a bod yn onest.
Flynyddoedd yn ôl, yn amlwg, pan ddechreuais yn y busnes hwn, roeddwn i gyda fy nhad. Cawsom amserau gwych, ond fel llawer o ffermwyr, doedden ni ddim yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i'w werthfawrogi a chael saib o ffermio.
Mae ffermwyr yn ymgolli yn y swydd – dwi’n sefyll yma nawr ac rwy'n gallu gweld carw sy’n cloffi rhywfaint Felly fel ffermwr, mae rhywbeth ar eich meddwl bob amser. Ac yna, pan fydd 300 erw gennych, mae llawer o bethau i feddwl amdanyn nhw. Hefyd mae e’ mor bwysig cael saib, neu ar fferm, bydd bywyd yn mynd heibio heb i chi sylwi arno.
Wrth dyfu lan ar fferm, fy nhad oedd fy arwr, a fy mam. Ond yn amlwg, pan gollais i fy nhad, roedd yn sioc mawr, yn sioc i'r gymuned, yn sioc i'r teulu. Cafodd effaith enfawr. Ond, i fi'n bersonol, rwy'n cofio meddwl ar ryw bwynt na allen i deimlo’n fwy digalon a bod yn onest. Ac roedd y profiad yn eithaf... wel, bydden i ddim yn dweud ei fod yn agoriad llygad, ond rwy'n cofio meddwl, gall pethau ddim mynd yn waeth na hyn. Ac felly, rydych fel ffenics yn codi o'r fflamau, ‘dych chi’n dod nôl ac yn dod nôl yn gryfach.
Ond, yn amlwg, roedd yr hyn aeth fy nhad drwyddo yn ystod ei wythnosau neu ei fisoedd olaf yn rhywbeth na fyddech chi eich hun am fynd drwyddo. Felly mae'n debyg bod hynny wedi fy helpu i fod yn gryfach a chyrraedd y pwynt 'ma heddiw. Ond roedd rhan o hynny'n golygu addasu'r fferm er mwyn osgoi rhoi pwysau arna’ i fy hun. Yn amlwg, roedd angen ei newid i'w gwneud yn fwy proffidiol a helpu fy hun i gyrraedd oedran naturiol mewn bywyd a bod yn onest, yn hytrach na dilyn llwybr fy nhad. Gall hynny fod yn bwnc agos iawn i lawer o bobl.
Fyddwn i, fel llawer o bobl eraill, ddim yn siarad digon dros y blynyddoedd ac yn cuddio’r teimladau. D’ych chi ddim am ddangos gwendid, d’ych chi ddim yn mynd i'ch mart lleol a dweud wrth y ffermwr wrth eich ymyl, 'Dw i ddim am ddeffro yn y bore',
'Dw i ddim am wneud gwaith', 'Dw i’n llefain. D’ych chi ddim yn mynd i ddweud hynny. Mae angen i chi fod... yn fwy agored. Mae bywyd yn rhy fyr. Bob dydd yw'r diwrnod gorau. Boed law neu hindda. Mae'r haul bob amser yn disgleirio.
Ond mae angen i chi fwynhau eich hun, eich teulu. Mae mwy i fywyd na ffermio. Ond ambell ddiwrnod mae’r fferm yn faich arnoch chi. Ond, mae llawer o help ar gael, hyd yn oed os yw'n help ariannol, yn gyfreithiwr, yn gynlluniwr. Mae help ar gael ar gyfer unrhyw beth felly.
Does dim angen i ni wneud y cyfan ar ein pennau ein hunain.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw