Mae arnon ni bopeth i'r pridd: Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr (6)
Disgrifiadau
Mae arnon ni bopeth i'r pridd
Mae amaethyddiaeth gonfensiynol dan bwysau systemig enfawr oddi wrth archfarchnadoedd a rheoliadau'r Llywodraeth hyd at berthynas y genedl â bwyd. Mae'n rheidrwydd i ffermydd ddefnyddio cemegau mewn ffordd ddwys i ateb y galw. Mae degawdau o'r atebion tymor byr hyn yn achosi niwed tymor hir i gydbwysedd naturiol y pridd, gan waethygu'r broblem a dod yn bwysau ychwanegol ar y ffermydd y defnyddir y datrysiadau hyn arnynt. Nid oedd fferm James yn wahanol pan gymerodd yr awenau gan ei dad rai blynyddoedd yn ôl.
Mae ymrwymiad James i wneud iawn am y niwed hwn yn golygu ei fod yn defnyddio datrysiad annisgwyl o lawr y goedwig gerllaw lle nad yw'r tir wedi'i droi: myceliwm, rhwydwaith o linynnau ffyngaidd sy'n cario maetholion a bacteria ar draws y microbiom. Drwy weithio'r myceliwm iach, nas cyffyrddwyd ag e', yn ôl i'w bridd ei hun, ei amcan yw ailsefydlu'r rhwydwaith iach o facteria a fyddai wedi bodoli yno amser maith yn ôl, gan arwain at ffordd fwy cynaliadwy a chost-effeithiol o gynhyrchu bwyd.
Drwy leihau cynhyrchiant yn ystod y broses hon, ymddengys bod byd o wahaniaeth rhwng ymgais James i lywio fferm ei deulu i gyfeiriad newydd ag ymdrechion y genhedlaeth o'i flaen. Gyda gobeithion o osod esiampl i eraill a fydd efallai'n dymuno gwneud yr un peth, mae ei waith yn bwriadu adfer dulliau ffermio'r gorffennol wrth ddiogelu'i fferm a'i les yn y dyfodol.
"Rydym yn ddyledus i'r 6 modfedd uchaf o bridd am ein bodolaeth - ac rydym yn ei drin fel baw”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment