Os byddwn yn lwcus… :Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr (4)
Disgrifiadau
Os byddwn yn lwcus…
Heddiw mae llawer o lawenydd ar fferm Oliver, ond dyw pethau ddim yn wastad wedi bod felly; rhwng damweiniau a oedd yn bygwth bywyd ac anawsterau ymdopi ag iechyd meddwl gwael, mae'r teulu cyfan wedi gorfod ymdrechu, a hynny'n annisgwyl, i gadw'r fferm yn fyw.
Pan fu farw brawd Andrew cyn pryd, collodd ef ei bartner ffermio a'r cynlluniau roedd y ddau ohonyn nhw wedi'i gwneud gyda'i gilydd. Gyda theulu ifanc a phwysau ariannol enfawr , roedd y bywyd yr oedd Andrew bob amser wedi dyheu amdano'n ei lethu ac yn gwaethygu'i iselder, gan ei adael yn teimlo'n ynysig ac yn ystyried hunanladdiad.
Anogwyd Andrew i siarad gan ei wraig Emma, ac aeth ati i geisio help drwy gymorth meddygol a siarad am ei broblemau, ac wrth i'w les meddwl wella, gwellodd bywyd ar y fferm hefyd.Mae Emma hefyd wedi brwydro drwy anhwylder gorbryder ac iselder wrth geisio ymdopi â phwysau cefnogi Andrew a magu teulu. Roedd y byd ffermio yn newydd iddi pan briododd y ddau a dechreuodd ysgwyddo mwy a mwy o'r llwyth gwaith, ac mae hi ac Andrew bellach yn ffermio gyda'i gilydd fel tîm.
Nid yw'r daith â pherthynas eu fferm, â'u hiechyd meddwl wedi dod i ben, ond gyda phethau'n gwella maen nhw nawr yn dadlau dros ffermwyr yn siarad yn agored am eu profiadau ac yn annog eraill i geisio'r gefnogaeth y mae ei hangen arnynt.
"Mae angen i bobl wybod sut mae pethe i ni a ni sydd ar fai os nad ydyn nhw'n gwybod - 'dyn ni ddim yn siarad digon am y profiadau rydym wedi bod drwyddyn nhw.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment