Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'n fywyd llawer gwell

Ar ôl 20 mlynedd i ffwrdd, dychwelodd Ann o fywyd ym maes TG a gwaith corfforaethol i gymryd fferm ei rhieni drosodd ar ôl iddyn nhw farw. Gyda chefnogaeth ffermwr cyfagos, mae Ann yn treulio'i diwrnodau'n gofalu am ei defaid, ei gwartheg a'i moch, gan osgoi pethau arferol ffermydd masnachol mwy yn ofalus iawn.

Gan ddilyn camre’i mam, mae Ann yn canolbwyntio'n bennaf ar ei moch. Ar ôl gweld pa mor wael y gall ffermydd masnachol enfawr eu trin, mae hi wedi ymrwymo i'w lles, a thrwy hynny ei lles ei hun; er bod marwolaeth yn rhan reolaidd o fywyd pob dydd ar fferm, mae Ann yn gallu ymdopi â’r broses drwy sicrhau bod ei hanifeiliaid yn byw’r bywyd gorau posib.  

"Dw i ddim yn meddwl bod pobl yn deall y berthynas sydd gan ffermwr â'i anifeiliaid … gofalu amdanyn nhw a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael bywyd bach neis yw’r unig ffordd y galla’ i wneud hyn.”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw