Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Delwedd D401/1/6 o'r albwm coffadwriaethol. Cyflwynwyd yr albwm i Thomas Stevens a sefydlodd y busnes yn 1887 yn y Dutch Café, 122 Heol y Frenhines, Caerdydd, gydag adeilad ychwanegol yn 17 Heol Eglwys Fair cyn 1893. Agorodd y Dorothy Café yn 14 Stryd Fawr cyn 1897. Cofnodwyd y Dutch Café yn 136 Heol y Frenhines ym 1908, ac erbyn hynny roedd y busnes wedi gadael Heol Eglwys Fair ond wedi agor trydedd siop yn 93 Stryd Pontcanna, a becws. Mae’r dyddiad pan brynwyd y Dutch Café yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, yn ansicr. Roedd y busnes yn dal i berchen ar y Dorothy a'r eiddo yn Heol y Frenhines a Stryd Pontcanna ym 1949. Erbyn 1952, roedd y Dutch Café i bob golwg wedi cau ond roedd y cwmni wedi agor caffi yn 11 Windsor Road, Penarth. Diflannodd y busnes cyfan cyn 1961.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw