Skip to main content

Dorothy Café. Casgliad Thomas Stevens o Gaerdydd, Albwm Coffadwriaethol

Disgrifiadau

Delwedd D401/1/3 o'r albwm coffadwriaethol. Cyflwynwyd yr albwm i Thomas Stevens a sefydlodd y busnes yn 1887 yn y Dutch Café, 122 Heol y Frenhines, Caerdydd, gydag adeilad ychwanegol yn 17 Heol Eglwys Fair cyn 1893. Agorodd y Dorothy Café yn 14 Stryd Fawr cyn 1897. Cofnodwyd y Dutch Café yn 136 Heol y Frenhines ym 1908, ac erbyn hynny roedd y busnes wedi gadael Heol Eglwys Fair ond wedi agor trydedd siop yn 93 Stryd Pontcanna, a becws. Mae’r dyddiad pan brynwyd y Dutch Café yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, yn ansicr. Roedd y busnes yn dal i berchen ar y Dorothy a'r eiddo yn Heol y Frenhines a Stryd Pontcanna ym 1949. Erbyn 1952, roedd y Dutch Café i bob golwg wedi cau ond roedd y cwmni wedi agor caffi yn 11 Windsor Road, Penarth. Diflannodd y busnes cyfan cyn 1961.

Owner:
Glamorgan Archives
Crëwr:
Thomas Stevens
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
D401/1/3
Eitem wedi’i llwytho:
3/10/2022
Gwelediadau:
462
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment