Skip to main content

Golygfa fasgerfiad o Gofeb Picton, Caerfyrddin [delwedd 1 o 3]

Disgrifiadau

Crwyd y ffris hwn ar gyfer cofeb Picton, a gynlluniwyd gan John Nash, ac a gwblhawyd ym 1828. Gwaith E. H. Bailey yw'r ffris. Mae'r adran hon yn dangos marwolaeth y Cadfridog Picton yn Waterloo ym 1815. Gwelir Picton yn disgyn o'i geffyl i freichiau milwr o Adran yr Ucheldiroedd. Ganed y Cadfridog Syr Thomas Picton yn Poyston, Sir Benfro ym 1754. Fe'i gomisiynwyd i'r fyddin ym 1771, ac fe ddaeth yn Llywodraethwr ar Drinidad ym 1796. Enillodd Picton ei enw da fel comander medrus yn ystod Ymgyrch Gorynysol Sbaen, o dan Wellington. Wedi colled Byddin Napoleon ym 1814, dychwelodd i Iscoed, Glanyferi, Sir Gaerfyrddin, ond cafodd ei ail-alw i'r lliwiau wedi i Napoleon ddianc o Elba. Er i Picton gael ei anafu dau ddiwrnod cyn hynny yn Quatre Bras, fe barhaodd i orchymyn ei ŵyr ym Mrwydr Waterloo, 18 Mehefin 1815. Cafodd ei ladd yn arwain ei ddynion yn erbyn ymosodiadau'r gelyn.

Owner:
Carmarthenshire County Museum
Crëwr:
John Nash/Edward Hodges Bailey
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Copyright Details:
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin 2003
Publisher Ref:
GTJ23069
Eitem wedi’i llwytho:
23/10/2009
Date originally created:
1825-1846
Gwelediadau:
1497
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment