Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y bocsiwr Frank Moody (1900-63), neu'r 'Pontypridd Puncher' fel yr oedd yn fwyaf adnabyddus, yn un o 12 o blant, gan gynnwys saith o fechgyn a aeth ymlaen i focsio. Daeth talentau Moody fel bocsiwr i'r amlwg pan oedd yn ifanc. Fodd bynnag, bu'n gweithio yn y pwll glo hyd 1923 cyn penderfynu rhoi'r gorau i'w waith er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel bocsiwr. O hynny ymlaen roedd yn bosibl i Moody ddatblygu'r gallu ffrwydrol a'r ysbryd di-ildio a'i galluogodd i roi gwefr i gynulleidfaoedd ym Mhrydain ac America ac i ennill pencampwriaethau pwysau canol a phwysau godrwm Prydain. Cafodd Glen Moody, brawd bach Frank, yrfa ddisglair fel paffiwr, hyfforddwr a gweinyddwr bocsio.
Ffynhonnell:
'The Old Photographs Series: Pontypridd', wedi eu dethol o Gasgliad Canolfan Hanes a Threftadaeth Pontypridd gan Simon Eckley a staff y Ganolfan (Chalford Publishing, Stroud, 1994).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw