Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth - Pobyddion.

Byddai pobl Cricieth wedi pobi bara o'r dyddiau ymsefydlasant yn yr ardal. Roedd melin yn bodoli ger lan y môr yn Abermarchnad ers y canol oesoedd, efallai hyd yn oed yn gynharach. Byddai ceirch neu haidd yn cael ei ddwyn i'r felin gan gerti i'w falu. Byddai'r felin yn malu'r grawn a ddygwyd gan ffermwyr am dâl neu'n prynu rhywfaint i'w werthu i bobl y dref. Pobi eu bara eu hunain fyddai'r merched yn bennaf. Gwnaeth rhai arian ychwanegol gan werthu bara ac yn ymddangos yn y cyfrifiadau fel “pobyddion”. Un o'r pobyddion hyn a grybwyllwyd yng nghyfrifiad 1861 oedd Jane Jones a oedd yn byw mewn bwthyn ar Pencei, gyferbyn â'r felin. Mae un hanesyn yn sôn am jobyn rheolaidd i'r bechgyn oedd nôl bwced o'r clai llwyd o'r clogwyni yn Nhanrhiwiau (Morannedd) i leinio tu fewn y ffyrnau.

Adeiladwyd y felin flawd stêm ym Mhorthmadog yn 1862 , a chariwyd blawd o Lerpwl gan y stemar fach SS REBECCA , wedi hynny yn 1867 gan y rheilffordd. Daw blawd gwenith gwyn yn gyffredin yn yr ardal. Mae'n debyg mai'r ffaith bod y blawd hwn ar gael gwnaeth sefydlu poptai go iawn oedd yn arwain at ddiwedd y felin. Roedd y melinydd olaf i fyw yn Dŷ Felin yn y 1880au. Dechreuodd y poptai tua diwedd y 19eg ganrif. Yr arferiad arferol, ar y dechrau, oedd i’r gŵr bobi’r bara a’r wraig a’r merched i wneud cacennau a melysion. Weithiau byddai siop ynghlwm i’r becws neu gerllaw. Byddai llawer o’r gwragedd tŷ yn dal i baratoi’r toes gartref ac yn mynd a fo i’r becws mewn tuniau torth i’w bobi. Roedd tag metel ynghlwm i’r tuniau gyda rhif i adnabod y perchennog.

Yn ystod cof byw yr oedd chwe becws; heddiw dim ond un sy'n bodoli. Y rhain oedd:- BECWS Y CASTELL, gyferbyn â Hen Neuadd y Dref wrth droed y castell. Y pobydd cyntaf a grybwyllir yma oedd Capten John Hughes. Fe'i disodlwyd, am gyfnod byr gan Ellis Evans ac yna cyn y Rhyfel Byd Gyntaf gan Edward Jones, a fu'n felinydd ym Melin Tan y Bwlch ym Maentwrog, a bu ei deulu'n rhedeg y busnes am flynyddoedd lawer. Gwerthodd CAFFI GWALIA ar y Stryd Fawr fara a chacennau. Dechreuodd STATION BAKERY ar Deras Parciau ac yna symud i'r Stryd Fawr a'i redeg gan y Teulu Rowlands a Roberts. Yr oedd gan aelod arall o'r teulu hwn becws y tu cefn i DERAS WELLINGTON. Cymerwyd hyn drosodd gan Sam Jones cyn yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel symudodd y becws i fyny Ffordd Caernarfon i fod yn FECWS MAES. Ym 1973 cymerodd Ifor a Gwyneth Davies yr awenau. Fe brynon nhw hefyd CAFFI IDRIS a oedd wedi pobi bara ond fe wnaethon nhw roi'r gorau i gynhyrchu yma, gan ganolbwyntio ar y siop Bara a Chacennau a'r Caffi yn y lleoliad hwn. Mae hwn heddiw yn cael ei redeg gan yr un teulu a dyma'r unig fusnes becws yng Nghricieth. Roedd y pobyddion yn olygfa gyffredin o gwmpas y dref, yn cludo bara gyda'u merlod a thrap neu gerti llaw. Daeth faniau modur yn eu lle yn ddiweddarach. Mae llawer o’r trigolion hŷn gyda chof melys mynd â’u tyrcïod Nadolig i’r becws i gael eu rhostio.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw