Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cricieth - Yr Odyn Galch. Mae calch wedi cael ei ddefnyddio i wneud morter ar gyfer adeiladu a gwyngalchu bythynnod ers cannoedd o flynyddoedd. Defnyddiwyd y calchfeini llosg a maluriedig hefyd fel gwrtaith ar bridd asidaidd tlawd Eifionydd. Ar Fap Degwm 1839, ym mhlwyf Cricieth, enwir saith “Cae’r Odyn”. Roeddent fel arfer ger y ffermdy neu drac. Ar fferm Ynysgain Fawr roedd y cae drws nesaf i'r traeth, sy'n awgrymu mai llongau bychain oedd yn dod â'r calchfaen i mewn. Ymhellach i'r gorllewin byddai llongau'n traethu ger ceg yr Afonwen i ddadlwytho calchfeini, cwlm a mawn. Byddai’r rhain yn cael eu cario ar hyd y trac trol a adeiladwyd yn arbennig o’r enw “Lôn Goed”. Adeiladwyd hwn rhwng 1819 a 1828 gan John Maugham, stiward Stad Talhenbont, i gyflenwi’r ffermydd ar hyd y ffordd i Fryncir. Mae hyn yn dangos ei fod yn ddiwydiant pwysig. Yr unig luniau sydd gennym yw'r odyn galch yn Abermarchnad yng Nghricieth. Byddai llongau bychain yn cludo llechi o’r Traeth Mawr, Porthmadog yn ddiweddarach, ac yn dod â chalchfeini, glo a cwlm yn ôl. Darnau glo bach oedd yr olaf a oedd yn cael ei gymysgu â chlai yn beli neu frics. Byddent yn hwylio i'r traeth ac wrth i'r llanw fynd allan byddai'r cargo yn cael ei lwytho ar droliau ceffylau a mulod. Ymhellach i fyny o'r odyn, lle mae Tanygrisiau Terrace yn ymuno â Lôn Penpaled roedd iard lo. Ar ôl gyrru'r cathod i ffwrdd, a oedd yn hoffi bod yn agos at y cynhesrwydd, adeiladwyd haenau olynol o galchfaen a glo yn yr odyn ar fariau grât a chynnau tân. Cymerodd y broses o gynhyrchu'r calch 3-4 diwrnod, a bu'n rhaid trin y tân yn ofalus. Ar ôl tynnu’r cynnyrch terfynol, yn aml byddai’r plant ar y ffordd i’r ysgol yn rhoi tatw yn y marwydos ac yn eu bwyta amser cinio. Mae'n rhaid bod yr ardal o amgylch yr odyn yn llanast ofnadwy gyda'r traffig trol, storio'r cerrig, glo a’r llwch. Pan ddechreuodd Cricieth ehangu a datblygu fel cyrchfan wyliau, ar ôl dyfodiad y rheilffordd, ceisiodd y Cyngor Tref am flynyddoedd lawer i brynu’r tir i gael gwared ar y safle hyll ond ni chafodd yr odyn ei dymchwel tan 1929 a chodi tai ar hyd Min y Traeth. Gweithiwr olaf yr odyn oedd Dafydd Williams o Deras Capel a oedd yn cael ei adnabod fel “Yr Hen Galchan”.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw