Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth – Lôn Fel.

I lawer o drigolion hŷn Lôn Cariadon (“Lover’s Lane” ) yw’r llwybr sy’n rhedeg o Gefn Castell, hanner ffordd i’r afon Dwyfor, am tua milltir i gyfeiriad y gogledd. Mae'n fwdlyd iawn ac yn gorffen mewn cae bach ger llwyn gwern laith. Tro mwy addas ar gyfer cyplau sy’n caru yw Lôn Fel, y enwir yn Lôn Cariad ar hen gardiau post a lluniau. Mae hwn ar ochr orllewinol Cricieth ac yn rhedeg o lan y môr yn Abereistedd, i fyny’r allt i stad dai Ty’n Rhos. Mae yna hanner isaf ac uchaf gan ei fod yn cael ei dorri'n ddwy gan Brif Ffordd Pwllheli. Mae'r rhan isaf yn brysur gan ei fod yn gwasanaethu stadau Penaber, Gwaun Ganol a Muriau. Wedi croesi'r ffordd fawr mae'n newid yn llwyr. Mae wedi'i balmantu am ei hyd lawn ond mae ei lled yn amrywio'n sylweddol. Wrth fynd heibio i'r hen borthdy ar y chwith mae darn gweddol lydan i'r fynedfa i Barciau. Fferm fechan oedd hon lle trigai Ellis Annwyl Owen, rheithor Llanystumdwy. Ym 1873, prynodd y perchennog llong gyfoethog, Capten Thomas Williams, fo a chafodd ei ailadeiladu fel tŷ crand. Ar y dde mae'r fynedfa gefn i Barciau Mawr. Mae rhai o'r hen adeiladau allanol wedi'u trosi'n dai. Yma hefyd mae Ysgubor Wair rhestredig Gradd II. Mae’r ffordd bellach yn culhau ac wedi’i chysgodi gan hen goed, hyd at ddau fwthyn, sef Tŷ Clap a Hen Berllan. Mae llwybr i'r chwith yn arwain at Bron Eifion. Ar ôl y bythynnod mae tro yn y ffordd. Roedd mainc fach yn arfer bod ar y gornel hon a oedd yn boblogaidd iawn gyda’r calonnau melys.

Mae'r coed ar yr ochr dde (dwyrain) yn denau ac mae'r agwedd yn agor i fyny i olygfa wirioneddol wych o'r castell, Bae Tremadog a Bryniau Meirionnydd. Erbyn cyrraedd bythynnod Parciau Bach mae pawb wedi stopio i edmygu'r panorama. Tua hanner can llath uwchben y bythynnod hyn arferai bod yna dyddyn bychan, Parciau Bach Uchaf. Dymchwelwyd hwn ac mae bellach yn erddi Brynawelon. O edrych trwy’r gwrych fe welwch yr ardd goffa adeiladwyd gan David Lloyd George yn 1941 er cof am ei wraig y Fonesig Margaret. Yn anffodus, mae hwn bellach wedi gordyfu. Rydyn ni'n agosáu at ben y lôn nawr. Ar yr ochr dde mae atgof o'i dyddiau gynt - y giât ochr i'r gerddi, sydd bellach wedi pydru'n ddrwg. Ar hwn ceir cannoedd o flaenlythrennau ac enwau wedi eu cerfio gan hogiau ifanc rhamantus. Heddiw mae wedi'i hindreulio a'i orchuddio â mwsogl sy'n ei gwneud hi'n anodd darllen enwau'r rhai sy'n caru'r dyddiau a fu. O'ch blaen mae'r stad dai, ar y chwith y ffordd gefn i Lanystumdwy ac ar y dde, prif fynedfa Brynawelon, cyn gartref y Prif Weinidog Lloyd George a’i ferch Megan Lloyd George, AS cyntaf benywaidd Cymru, sydd bellach yn gartref nyrsio. Dyna ein taith bleserus ar hyd Lôn Fel, enw gwirioneddol addas.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw