Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Chwaraeodd Dewi Bebb dros Abertawe a Choleg y Drindod Caerfyrddin ac enillodd 34 o gapiau ar yr asgell dros Gymru rhwng 1959 ac 1967.
Chwaraeodd Bebb ei gêm ryngwladol cyntaf wedi ychydig iawn o gêmau ar y lefel uchaf. Ei nodwedd orau oedd ei gyflymder dros bellteroedd byr a llwyddodd i sgorio nifer o geisiau o ganlyniad i hynny, gan gynnwys dau yn erbyn Lloegr ym 1961.
Yn ystod ei ail daith gyda'r Llewod, sgoriodd Dewi Bebb 14 o geisiau mewn 23 o gêmau ac yn ystod ei gêm olaf dros Gymru croesodd linell y Saeson yn union fel ag y gwnaeth yn eu herbyn wyth mlynedd yn flaenorol yn ystod ei gêm gyntaf.
[Yn seiliedig ar 'Giants of Post-War Welsh Rugby', golygwyd gan Clive Rowlands a David Farmer, 1991, tudalen 112]

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw