Skip to main content

Porth bwa Theresienstadt Ghetto, Gorffennaf 2013

Disgrifiadau

Ffotograff o fwa Theresienstadt Ghetto gyda'r ymadrodd Arbeit Macht Frei (Gwaith yn eich rhyddhau). Tynnwyd y llun ym mis Gorffennaf 2013.

Am y ghettos

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gorfodwyd y boblogaeth Iddewig i getos gan awdurdodau’r Almaen. Ardaloedd caeedig oedd yn cadw Iddewon ar wahân oddi wrth weddill y boblogaeth oedd y getos fel arfer. Sefydlodd yr Almaenwyr o leiaf 1,143 o getos yn y tiriogaethau dwyreiniol oedd wedi eu meddiannu.

Dim ond am ychydig ddyddiau yr oedd rhai o’r getos mewn bodolaeth. Roedd eraill mewn bodolaeth am fisoedd neu flynyddoedd. Roedd yr Almaenwyr yn eu hystyried fel modd o reoli a gwahanu Iddewon tra bod arweinwyr y Natsïaid yn ystyried opsiynau i ddileu’r boblogaeth Iddewig yn barhaol. Roedd cynghorau Iddewig (Judenräte) a apwyntiwyd gan y Natsïaid yn gweinyddu bywyd bob dydd yn y getos.

Am Theresienstadt Ghetto

Roedd ghetto Theresienstadt yng ngogledd-orllewin Tsiecoslofacia yn gweithredu fel gwersyll trosglwyddo ar gyfer Iddewon cyn i’r Almaenwyr eu symud i ganolfannau lladd, gwersylloedd crynhoi, a gwersylloedd llafur gorfodol. Disgwylid y byddai’r amodau gwael yno’n prysuro marwolaethau nifer o’r rhai a gludwyd yno nes iddynt allu cael eu halltudio.

Roedd geto Theresienstadt yn hynod am i’r Natsïaid ei ddefnyddio i guddio natur yr alltudio. Mewn propaganda Natsïaidd, disgrifiwyd Theresienstadt yn sinigaidd fel ‘tref sba’ lle gallai Iddewon oedrannus ‘ymddeol’ yn ddiogel. Er gwaetha’r amodau byw ofnadwy a’r bygythiad cyson o alltudiaeth, roedd gan Theresienstadt fywyd diwylliannol hynod ddatblygedig. Byddai awduron, athrawon prifysgol, cerddorion, ac actorion yn cynnal darlithoedd, cyngherddau, a pherfformiadau theatr.

Pasiodd pymtheg mil o blant drwy Theresienstadt. Er y gwaharddiad i wneud hynny, byddent yn mynychu’r ysgol. Byddent yn peintio lluniau, ysgrifennu barddoniaeth, ac yn ceisio bod mor normal â phosibl dan yr amgylchiadau. Bu farw tua 90% o’r plant yma mewn canolfannau lladd.

Caniataodd yr Almaenwyr i’r Groes Goch Ryngwladol i ymweld ym mis Mehefin 1944. Twyll cymhleth oedd y cyfan: dwysau’r alltudio o’r geto wnaeth yr Almaenwyr yn fuan cyn yr ymweliad i leihau’r gorboblogi, a chafodd y geto ei hun ei ‘harddu’. Plannwyd gerddi, peintiwyd y tai, ac atgyweiriwyd y barics. Cynhaliodd y Natsïaid ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer yr ymwelwyr pwysig. Cyn gynted ag y daeth yr ymweliad i ben, ailddechreuodd yr Almaenwyr yr alltudio.

O’r tua 140,000 a drosglwyddwyd i Theresienstadt, mae’n weddol bendant i tua 90,000 ohonynt gael eu halltudio i’w marwolaeth. Bu farw tua 33,000 o bobl yn Theresienstadt ei hun.

Ffynonellau

Amgueddfa Goffa'r Holocost yr Unol Daleithiau, Gwyddoniadur yr Holocost: Ghettos [cyrchwyd 18 Awst 2022]

Amgueddfa Goffa'r Holocost yr Unol Daleithiau, Gwyddoniadur yr Holocost: Theresienstadt [cyrchwyd 18 Awst 2022]

Wikimedia Commons, Czech-2013-Terezin-Theresienstadt-Arbeit macht frei (2013) [cyrchwyd 18 Awst 2022]

 

Owner:
Andrew Shiva / Wikipedia / CC BY-SA 4.0
Crëwr:
Andrew Shiva
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
22/8/2022
Gwelediadau:
791
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment