Skip to main content

Clip sain o gyfweliad hanes llafar gyda William Richard Williams: mynd i mewn i Wersyll Crynhoi Bergen-Belsen, 24 Mai 1995

Disgrifiadau

Daw'r clip sain hwn o gyfweliad hanes llafar gyda William Richard Williams a recordiwyd gan yr Imperial War Museums ar 24 Mai 1995. Yn y clip, mae William yn sôn am fynd i mewn i Wersyll Crynhoi Bergen-Belsen

William Richard Williams - bywgraffiad byr

Ganwyd William Richard Williams yn 1920 a mynychodd Ysgol y Gadeirlan yng Nghaerdydd. Wedi cael prentisiaeth gyda’r Austin Motor Company, ymunodd â Chorfflu Gwasanaeth Brenhinol y Fyddin yn 1939 a chafodd ei gomisiynu fel swyddog yn 1941. Cymerodd ran yng nglaniadau Normandi ym mis Mehefin 1944 ac ef oedd un o’r milwyr Prydeinig cyntaf i gyrraedd i ryddhau gwersyll crynhoi Bergen-Belsen yng ngogledd Yr Almaen ym mis Ebrill 1945. Cafodd ei hebrwng i mewn i’r gwersyll am y tro cyntaf gan Schutzstaffel (SS) swyddog (yr SS sef y sefydliad parafilwrol oedd yn gyfrifol am weinyddu Gwersylloedd Crynhoi’r Natsïaid a’r gwersylloedd lladd) cyn iddynt gael eu trosglwyddo i reolaeth y Cynghreiriaid rai dyddiau’n ddiweddarach.

Trawsgrifiad

Dyma ni’n cyrraedd yno, a doedd dim arwyddion o unrhyw beth o gwbl, roed y lle ond yn…yn ardal, lôn fach yn arwain i mewn i goedwig. Ond hanner canllath i lawr yr agoriad bach hwnnw, roedd bocs gwyliwr yr Almaenwyr, y du a’r coch a’r streipen wen, gyda pholyn codi, a sowldiwr Hwngaraidd. Wel, dywedwyd wrthym yn ddiweddarach mai un o Hwngari ydoedd, milwr digon rhyfedd yr olwg, mewn…iwnifform dywod, pwti a reiffl ar ei gefn. Dyma fe’n codi’r polyn ac yn amneidio arnom i fynd drwodd.

[...]

Dyma ni’n mynd, fi a’r ddau SS oedd gyda fi, drwy’r glwyd i mewn i’r gwersyll go iawn a dyna rywbeth, golygfa na wnaf i ei hanghofio fyth. Rwy’n credu mai beth oedd yno gyntaf…oedd ond ardaloedd o weiren bigog, ffensys weiren bigog uchel, cabanau ar yr ochr chwith. Roedd bwndeli dros y prif ymgynullfan – oedd ond yn ardal o bridd sych heb borfa yn unman – a dim ond bwndeli, oedd yn edrych fel carpiau ond cyrff gwersyllwyr meirw oedden nhw mewn gwirionedd. Dywedwyd wrthym am gyfeirio at y gwersyllwyr fel PD – Pobl Ddadleoledig. Doedd gyda ni ddim gwybodaeth o bwy oedden nhw, o ble roedden nhw’n dod, eu cenedl, rhyw na’u crefydd. Ac wrth i ni fynd i mewn ymhellach, dyma ddrewdod yr holl le yn fy nharo, ynghyd â’r ffaith bod niwl llosgol yn gorchuddio’r gwersyll, a ffurfiwyd wrth i’r gwersyllwyr losgi eu palisau gwellt a’u…a’r lloriau pren, unrhyw beth allen nhw ei losgi, ac roedd y tawch hwnnw fel petai’n gwmwl dros y gwersyll cyfan. Roedd gwersyllwyr, neu PD, yn crogi ar wifrau, wedi disgyn wrth eu hymyl, mewn ffurfiau grotesg, ac roedd yn rhaid i chi, jyst gwau eich ffordd drwyddyn nhw. Roedd dau’n cerdded ac yn dod tuag atom, a dyma’r SS, oedd yn fy hebrwng, yn eu saethu.

Ffynhonnell

Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, Cyfweliad hanes llafar gyda William Richard Williams, 24 Mai 1995 [cyrchwyd 17 Awst 2022]

Storfa: Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol

Owner:
Imperial War Museums (IWM)
Crëwr:
IWM (Production company)Lyn E Smith (recorder)William Richard Williams (interviewee/speaker)
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
22/8/2022
Gwelediadau:
720
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment