arrowbookcheckclosecommentfacebookfavouritegooglehomeibapdfsearchsharetwitterwelsh-government

Disgrifiad

Tua 500 mlynedd yn ôl, byddai cogydd wedi paratoi prydau ar gyfer teulu cyfoethog yn y crochan efydd hwn. Yn y 19eg ganrif, fe'i darganfuwyd gan ddoethwraig o dan bentwr o gerrig ar Fynydd Myddfai. Fe'i defnyddiwyd gan y wraig i falu planhigion a llysiau meddyginiaethol. Mewn chwedlau Celtaidd, mae gan grochanau bwerau dadeni ac iachau. Maent hefyd yn cynhyrchu cyflenwadau diddiwedd o fwyd i fwydo'r rhyfelwyr. O Oes yr Efydd ymlaen, roedd crochanau yn wrthrychau rhodres a gwerthfawr. Fe'u ceir mewn beddau brenhinol ac fel offrymau dŵr.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw