Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Darganfuwyd y pen brysgyll aloi copr o geubwll yng Nghastell Dryslwyn.

Castell brodorol Cymreig a oedd ym meddiant tywysogion y Deheubarth ond a gipiwyd gan luoedd y Brenin Edward I ym 1287. Llwyddodd Rhys ap Maredudd, Arglwydd Dryslwyn, i ddianc ond cafodd ei fradychu yn y pendraw a'i ddienyddio ym 1291. Yn ddiweddarach, ildiwyd Dryslwyn i Owain Glyn Dwr ym 1403, cyn i'r Saeson ei adennill ac yna ei ysbeilio a difrodi rhannau o'r castell.

Ffynhonnell:
http://www.cadw.wales.gov.uk/

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw