Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

O'r chwith i'r dde: Ark Llewelyn, Arthur Seaton (Contractiwr gyda Chyngor Pontypridd), Miss Mackensie (Tafarn y 'Prince of Wales'), Freddie Welsh (Pencampwr Pwysau Ysgafn y Byd - brodor o Bontypridd), John Morris, John Brooks (Gwerthwr Tybaco).
Ganed y bocsiwr Freddie Welsh (1886-1927), neu Frederick Hall Thomas, yn Nhafarn y Bont, Pontypridd. Pan oedd yn 16 oed gadawodd ei gartref gan deithio i Ganada a Gogledd America i chwilio am fywyd newydd. Ymladdodd ei ornest gyntaf yn Philadelphia ym mis Rhagfyr 1905, gan ymladd o dan yr enw Freddie Welsh. Wedi cyfnod yn Awstralia dychwelodd Welsh i Gymru lle dechreuodd wneud ei farc fel bocsiwr. Cafodd ei goroni'n bencampwr pwysau ysgafn Cymru ym 1907 ac erbyn haf 1914 ef oedd pencampwr pwysau ysgafn y byd. Daliodd ei afael ar y teitl hwn hyd 1917. Bu farw yn ddyn tlawd yn Efrog Newydd ym 1927.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw