Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cyflwynwyd y medalau coffaol hyn i deuluoedd y gŵyr a'r gwragedd a fu farw ar faes y gad yn y Rhyfel Mawr (1914-18). Yr enw cyffredin ar y fedal oedd y 'Dead Man's Penny'. Roedd wedi ei gwneud o efydd ac yn mesur tua 4 modfedd a hanner ar draws. Cafodd y rhan fwyaf o'r medalau eu cynhyrchu yn ffatri arfau Woolwich (Llundain). Yn ogystal â'r fedal hon, derbyniodd teuluoedd y meirw sgrôl addurnedig lliw a llythyr printiedig o Balas Buckingham wedi ei lofnodi gan y Brenin. Cynlluniwyd y fedal gan Edward Carter Preston (1885-1965), cynhyrchydd medalau/cerflunydd o Lerpwl. Roedd Preston wedi ennill cystadleuaeth cenedlaethol i gynllunio'r fedal goffaol.

Mae'r fedal hon yn coffau Thomas Owen.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw