arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Cafodd y Peithynen, neu'r llyfr pren, ei ddyfeisio gan Iolo Morganwg (1747-1826) a gŵyr llen Morgannwg, i gefnogi eu honiadau eu bod yn ddisgynyddion i'r derwyddon. Mae llinellau cerdd wedi'u cerfio ar bedair ochr pob ffon. Yr enw ar y llawysgrif ryfedd yw 'coelbren y beirdd' neu wyddor y beirdd, a honnwyd mai dyma'r wyddor a ddefnyddiwyd gan y beirdd cynnar. Yn ddiweddarach, daeth yn amlwg i'r wyddor gael ei dyfeisio ar ddechrau'r 19eg ganrif gan Iolo Morganwg a'i gyfeillion. Enillodd y peithynen hwn wobr yn eisteddfod Wrecsam ym 1876.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw