Skip to main content

Cwilt priodas, dyluniad streipiog, paneli gwyrdd a choch gyda brethyn cyfan glas ar y cefn, Glynarthen, Ceredigion, 1893

Disgrifiadau

Gwnaed y cwilt streipiog hwn ar gyfer priodas Elizabeth Morris o fferm Pantyseiri Fawr Glynarthen, de Sir Aberteifi, a Thomas Evans, fferm Trefaesfawr, Beulah, de Sir Aberteifi. Cynhaliwyd y briodas yng Nghapel Glynarthen ddydd Mawrth 19 Medi 1893. Mae’r cwilt hwn yn un o bâr a wnaed gan ddefnyddio gwlân o gartref Elizabeth ym Mhantyseiri Fawr, Glynarthen ar gyfer ei chist briodas. (Mae’r ail gwilt, cwilt brethyn cyfan gwyn, yn cael ei arddangos yn y galeri). Ar y pryd, oddeutu un swllt y pwys fyddai gwerth y gwlân. Mae ei dyddiadur yn nodi ei bod hi a’i brawd, Thomas, y ffermwr, wedi mynd i ffatri Llangrannog ar 14 Hydref gan fynd â 15 pwys a hanner o wlân ar gyfer pâr o gwiltiau a 9 pwys a chwarter o wlân ar gyfer brethynnau caerog i gael eu lliwio’n las yn Llanarth. Mae’r addurniadau ar y cwilt yn gyffredinol yn darlunio eitemau sy’n gysylltiedig â natur megis dail, a’r droellen dragwyddoldeb. Mae diemwnt neu groes yn y canol a border o gebl addurniadol.

Mae dathlu wedi bod yn bwysig i ddynol ryw erioed. Gallwn weld arysgrifau ar waliau ogofâu sy’n dyddio nôl mor gynnar ag Oes y Cerrig sy’n dangos pobl yn dawnsio ac yn cymryd rhan mewn dathliadau. Gall dathliadau fod yn wobr, gan wneud i bobl deimlo fod popeth wedi bod yn werth chweil a’u cymell i ddal ati. Gall dathliadau ddynodi bod gweithgaredd wedi dod i ben yn llwyddiannus, neu ddynodi diolchgarwch. Yn aml, mae dathliadau’n nodi trawsnewid. Maent yn nodi diwedd un bennod a dechrau pennod newydd, gan nodi newidiadau bywyd, megis priodasau. 

Er bod cwiltiau’n gysylltiedig â chynhesrwydd a chysgod gan amlaf, gyda’r cwiltiau cynharaf yn cael eu creu o angenrheidrwydd fel modd o gadw’n gynnes a chlyd mewn bwthyn oer yn ystod gaeaf rhewllyd, crëwyd rhai cwiltiau i nodi achlysuron penodol mewn bywyd, i ddathlu genedigaeth neu goffáu marwolaeth, neu yn yr un modd â’r cwilt coch a gwyrdd hwn, er mwyn paratoi ar gyfer priodas. 

Owner:
Amgueddfa Ceredigion Museum
Crëwr:
Elizabeth Morris
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
11/3/2022
Gwelediadau:
3
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment