Skip to main content

Cwilt seren appliqué gwnaed gan Mrs Jones, Capel Bangor, c1930

Disgrifiadau

Er bod cwiltiau weithiau’n cael eu gwneud yn y cartref gan y gwragedd neu mewn grwpiau megis Sefydliad y Merched, pobl broffesiynol oedd yn gwnïo’r rhan fwyaf o’r cwiltiau.  Nid gweithgaredd hamdden oedd gwneud cwiltiau ond swydd gyflogedig, un o’r ychydig ddulliau posibl i wragedd Cymru ennill bywoliaeth.

Mae’r cwilt hwn yn gyfuniad diddorol o gwiltio Cymreig cadarn ac appliqué hynod gywrain.  Cafodd ei wneud tua diwedd y tridegau pan gafwyd adfywiad cwiltio yn ne Cymru.   
Un o’r rhesymau dros yr adfywiad hwn oedd sefydlu Bwrdd y Diwydiannau Gwledig.  Dechreuodd hwn yn 1929, er mwyn ysgogi diwydiannau crefft yng Nghymru yn ystod y dirwasgiad.  Roedd yn llwyddiannus iawn yn ne Cymru, gan roi gwaith i wragedd glowyr di-waith. Roedd y cynnyrch yn cael ei lunio’n benodol i apelio at siopau mawr ffasiynol Llundain a Chaerdydd.  Roeddent hefyd yn cael cytundebau i gyflenwi gwestai megis Claridges a’r Savoy.  Mae arddull y cwilt hwn yn dangos dylanwad y farchnad soffistigedig hon ac mae’n anarferol gan ei fod yn cynnwys appliqué a chwiltio sy’n dilyn siâp y sêr.  

Wyddech chi fod gwesty Claridges yn Llundain wedi archebu cwilt Cymreig ar gyfer pob gwely yn eu hadain Art Déco newydd yn 1929? 

Owner:
Amgueddfa Ceredigion Museum
Crëwr:
Mrs Jones
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
11/3/2022
Gwelediadau:
2
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment