Skip to main content

Cwilt clytwaith gwnaed gan Lydia Jones, Aberystwyth, c1900

Disgrifiadau

Gwnaed y cwilt hwn gan Lydia Jones, 37 Y Stryd Uchel, Aberystwyth.  Bu farw ym 1924 ac roedd hi’n gwiltwraig broffesiynol a oedd yn gwneud cwiltiau ar archeb.  Roedd hyn yn gyffredin iawn yng Nghymru.  Byddai’r cwsmer yn darparu’r clytwaith a’r cefnyn a byddai’r cwiltiwr yn gwneud cwilt ohonynt.  Ychydig o glytweithiau cotwm a gafodd eu cynhyrchu’n broffesiynol.  Ar eu gorau, maent yn cynnwys cyfuniadau lliw prydferth a phatrymau cwiltio crefftus.  Mae’r cwilt hwn yn nodweddiadol o’r clytwaith blodeuog prydferth mewn lliwiau pastel a ddaw i feddwl y rhan fwyaf o bobl wrth iddynt ystyried cwiltiau oes Fictoria .  Dyma’r math o gwiltiau a ysbrydolodd gynllunwyr fel Laura Ashley a Cath Kidston. 

Roedd hi’n beth cyffredin iawn yng Nghymru i’r gwniyddesau mewn trefi a phentrefi wneud cwiltiau mewn ymateb i archebion gan wragedd tŷ oedd yn byw yn y cyffiniau.  Yn flynyddol, os gallai hi fforddio hynny, byddai meistres y tŷ yn prynu defnydd o’i siop neu o’i marchnad leol i wneud cwilt newydd.  Byddai hi’n mynd â’r defnydd hwnnw ynghyd â wadin o’i dewis at gwiltiwr y pentref ac yna byddai ganddi ddillad gwely newydd ar gyfer y gaeaf. 

Ceir cyfeiriad at gwiltiau mor gynnar â’r unfed ganrif ar bymtheg (16 ganrif) mewn rhestr o eitemau a oedd mewn cartref cyfoethog.  Erbyn yr ugeinfed ganrif (20g) roedd cwiltio dan fygythiad.  Roedd gorchuddion gwely a chwrlidau plu a wnaed yn fasnachol ar gael i’w prynu mewn siopau ac fel rheol roeddent yn ddigon rhesymol o ran pris. 

Owner:
Amgueddfa Ceredigion Museum
Crëwr:
Lydia Jones
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
11/3/2022
Gwelediadau:
2
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment