Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr a anfonodd Henry Jones, brodor o Lanfihangel-y-Pennant at ei frawd a chwaer, 15 Chwefror 1850. Roedd Henry wedi ymfudo i Holland Patent, Talaith Efrog Newydd.

Mae Henry yn dechrau ei lythyr drwy ddisgrifio'r tirwedd sydd wedi ei orchuddio gan eira. Dywed ei fod yn edrych ymlaen at y gwanwyn pan fydd blodau gwyn yn gorchuddio'r coed. Maent wedi cael tywydd digon derbyniol ers dechrau Rhagfyr, dim ond tair modfedd o eira sydd ar y llawr. Yn ystod y gaeaf, byddant yn torri coed ac yn eu cludo i Utica ar gefn sled, hyd nes y bydd y ffordd fel gwydr.

Mae Henry yn cynghori ei deulu i ymuno ag ef yn America, gan fod safonau byw yn uwch nag ym Meirionnydd, a'r nwyddau yn rhatach. Nid yw wedi gweld yr un tlotyn na'r un cardotyn, ac eto mae treth y tlodion yn cael ei gasglu ymhob plwyf. Dywed fod rhai pobl gybyddlyd yn dewis treulio'r gaeaf yn y tloty ar ôl iddynt ennill digon o arian drwy'r haf.

Nid yw'r crydcymalau yn poeni Henry bellach, ac mae hefyd wedi gwella o glwy'r pennau (mumps). Daeth meddyg i'w weld wyth gwaith ar gost o 16 swllt, sef yr hyn y byddai'n disgwyl talu am un ymweliad gan feddyg yng Nghymru. Dywed nad yw'r meddyg yn ennill fawr mwy o gyflog nag ef.

Mae miloedd o ymfudwyr yn gadael eu ffermydd yn nhalaith Efrog Newydd ac yn symud i California i chwilio am aur. Maent yn dychwelyd fesul cannoedd, ar ôl gwneud eu ffortiwn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw