Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Claddwyd capsiwl amser ar y 10fed o Chwefror 2022 ar tir Ysgol Llanychllwydog, Cwm Gwaun. Llwyddodd disgyblion o’r ysgol gynradd i ddeisebu Rowan O'Neill a Sophie Jenkins o PLANED i gael y capsiwl amser wedi’i gladdu yn eu gardd. Mae’r capsiwl yn perthyn i’r prosiect Cân Y Ffordd Euraidd y cyfrannodd y disgyblion a’u hathrawes Mrs Hedydd Hughes ato Haf diwethaf; ac yn marcio diwedd y prosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli Heartlands Communities.
Mae’r capsiwl yn cynnwys trawsgrifiad o’r baled, cyfres o hunan-bortreadau gan y disgyblion ac eitemau eraill megis neges o ewyllys da ar gyfer y dyfodol. Roedd Ceidwad Parc Arfordirol Cenedlaethol Sir Benfro Richard Vaughan wrth law i helpu i ceibo’r twll tra chwaraeodd y drymiwr seremonïol Shelley Morris curiad araf wrth i’r capsiwl gael ei osod yn y ddaear. Fe ganodd y plant "Clatsh y Cwn" gan Waldo Williams hegyd. Mae'r capsiwl i fod i gael ei adennill ymhen hanner can mlynedd. Claddwyd y capsiwl yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau gwrando a gynhaliwyd yn neuaddau pentref lleol y Preseli yn ystod Ionawr 2022. Mae’r faled radio i’w chlywed ar-lein o hyd trwy’r cyfeiriad canlynol: https://vimeo.com/642288464
--------------------
A time capsule was buried on 10th February 2022 in the grounds of Ysgol Llanychllwydog, Cwm Gwaun. Pupils from the primary school successfully petitioned Rowan O’Neill and Sophie Jenkins from PLANED to have the time capsule buried in their garden. The capsule relates to the radio ballad Cân Y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road which the pupils and their teacher Mrs Hedydd Hughes contributed to last Summer; and marks the end of the Ein Cymdogaeth Werin Preseli Heartlands Communities project.
The capsule contains a transcript of the radio ballad, a series of self-portraits by the pupils and other items relating to the ballad including a hand-written copy of the poem Preseli by Waldo Williams and a message of good will to the future. Pembrokeshire National Coastal Park Ranger Richard Vaughan was on hand to help dig the hole whilst ceremonial drummer Shelley Morris played a slow beat as the capsule was laid in the earth. The children also sang Waldo Williams' Clatsh y Cwn. The capsule is destined to be recovered in fifty years time. The capsule was buried following a series of listening events hosted in local Preseli village halls during January 2022. The ballad can still be heard online at the following address: https://vimeo.com/642288464

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw