Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
“Weithiau, mi fydda i’n meddwl am Jamaica, ond dro arall rwy’n meddwl mai aros yma wna i.”
Ganed Edna Henry ym Mhlwyf St Catherine, Jamaica, ym Mai 1931. Daeth yn syth i Grangetown, Caerdydd yn 1961.
“Mae gen i dri brawd, dim chwiorydd, a fi yw’r ieuengaf ond un.”
“Daeth fy mhenderfyniad i ddod i Brydain oherwydd bod fy mrawd yn yr RAF... ar ôl y rhyfel, daeth allan ac yna, wyddoch chi, fe benderfynodd ddychwelyd yma, ac fe anfonodd amdanaf i.”
“Roeddwn i’n 29 pan ddois i yma... mewn awyren, BOAC, 1961.”
“Fe ddois i’n syth i swydd... pan ddois i Gaerdydd. Pan ddaeth fy mrawd â fi yma, roedd e’n adnabod rhywun felly roedd gen i swydd yn aros amdanaf i. Yn Ysbyty Dewi Sant oeddwn i, ond yn gweithio yn y golchdy yno.”
“Roedd fy ngŵr yn un a arferai weithio ym mhobman. Peiriannydd oedd e...”
“Roeddwn i’n gweithio yn yr ysbyty, ysbyty Trelái – yn y 70au oedd hyn... fe gefais i dŷ newydd. Fe gefais i bedwar o blant yma. Fe’u ganed rhwng 1962 ag 1971, felly roeddwn i’n fam mewn gwaith yn ceisio cadw dau ben llinyn ynghyd...”
“Roedd fy nghymydog... doedden nhw ddim yn hoffi pobl Dduon... fe ddeffrais i un bore a phan edrychais allan tu ôl i fy nghegin, roedd hi... yn taflu baw ar y cefn. Carthion...”
“Rwy’n mynd i’r eglwys bob wythnos. Fe ddechreuais i fynd amser maith yn ôl, ers imi gyrraedd Trelái. Pan symudais i lawr, roedd braidd yn bell ac ers hynny rwy’n mynd i’r [eglwys] Pentecostaidd, ac mae’n chwarae rhan fawr yn fy mywyd...”
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw