Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

"“Roedden nhw’n gweithio mewn lleoedd fel ffatrïoedd, yn sgubo’r strydoedd, ysbytai, unrhyw waith roedden nhw’n gallu ei gael...”
Ganed Grace Baxter yn Kingston, Jamaica. Ei thad ddaeth i Brydain gyntaf, yn 1951, wedyn ei mam, ac anfonwyd am Grace yn nes ymlaen.
“Fe wnaethon nhw glywed si nad oeddwn i’n bwyta’n iawn... roedden nhw’n poeni braidd felly fe wnaethon nhw anfon amdanaf i ddod i Loegr. Tair oed oeddwn i pan ddois i yma.”
“Roeddwn i’n aros gyda fy mam-gu, a doedd hi ddim yn fodlon i mi adael o gwbl... rwy’n cofio’n iawn. Fe ddwedodd wrthyf, ‘mae ’na ddyn yn dod i fynd â thi i ffwrdd, felly cuddia di o dan y gwely bync a phaid â dod allan nes bydd y dyn wedi mynd.”
“Roeddwn i’n gallu clywed lleisiau uchel... roeddwn i’n methu anadlu... edrychodd y dyn o Lysgenhadaeth Prydain a dweud ‘Dyna hi!’ ac fe’m tynnwyd allan a dyna oedd dechrau fy siwrne i Brydain. ’Dwyf i ddim wedi anghofio.”
“Fe wnaethon nhw [rhieni Grace] sylweddoli bod pobl Cymru yn annwyl iawn, a’r lle yn neis... fe wnaethon nhw benderfynu parhau gyda’u gwaith yn yr eglwys yno a chysylltu gyda phobl yn y Cymoedd a oedd yn rhedeg capeli yno.”
“Wrth imi fynd yn hŷn, daeth pethau’n haws gan fod yr oes yn newid... roedd y genhedlaeth iau yn fwy o rebels... os roedden nhw eisiau siarad gyda pherson Du, neu briodi person Du... doedd neb am eu rhwystro... roedd hynny’n newid mawr yn y 70au, ddwedwn i.”
“Fe es i weithio yn yr ysbyty... yna penderfynais y buaswn i’n lletya pobl o dramor, sefydlu meithrinfa a chymryd rhan yn y gymuned a gyda theuluoedd a hyfforddais i wneud gwaith meithrinfa.”
“Mae’n syniad da i genedlaethau’r dyfodol wybod sut roedd pethau pan ddaethom ni yma yn gyntaf, a sut gwnaethon ni adeiladu’r wlad, gan mai dyna ddaethom ni yma i’w wneud.”
"

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw