Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
This content isn't available for download, please contact us.
Disgrifiad
"“Pan ddois i yma… roedd fel rhyddhau aderyn o’i gaets, wyddoch chi...”
Ganed Franklyn Parris yn St Kitts yn 1947. Pan roedd yn naw oed ymadawodd ei dad a mynd i Brydain ac aeth Franklyn i fyw gyda’i fam-gu.
“Cigydd oedd fy nhad yn India’r Gorllewin, a phan ddaeth e yma, roedd e’n gweithio yn yr hafnau glo lan yn Nantgarw... Pan roeddwn i’n chwech oed, nes oeddwn i’n tua naw, roeddwn i’n mynd i’r farchnad bob nos Wener gyda ’nhad i ladd yr anifeiliaid i’w gwerthu yn y farchnad ar ddydd Sadwrn.”
“Pan roeddwn i’n ifanc, roeddwn i eisiau tyfu i fyny i fod yn weinidog yn yr eglwys. Roedd yr eglwys yn rhan fawr o fy mywyd, yn enwedig yn fy mhlentyndod pan roeddwn i’n mynd i’r eglwys bron bob dydd, gyda’r nos a liw nos.”
“Ysgrifennodd fy mam-gu y at fy nhad gan ddweud y byddai’n well iddo anfon amdana i, gan y buaswn ar fy mhen fy hun pe bai unrhyw beth yn digwydd iddi hi... roeddwn i’n 13 oed pan ddois i yma.”
“Fe wnes i ddechrau prentisiaeth fel peiriannydd... roeddwn i’n llwyddiannus ac fe es i’r Llynges fel peiriannydd. Yn 1968 oedd hynny... fe wnes i hedfan i Efrog Newydd, ymuno â’r llong... o’r fan honno, fe fuon ni yn Fietnam, fe wnaethon ni hedfan i Hong Kong gyda’r milwyr gan fod rhyfel yno. Roeddwn i oddi cartref am wyth mis... fe welais i ddioddef, cyrff meirw, roedd yn sioc ofnadwy...”
“Mae gen i ddwy faner i fyny yn fy nhŷ, baner St Kitts a Nevis a baner Cymru... Ar ôl bod o gwmpas Prydain, fuaswn i ddim yn byw yn unlle ond Caerdydd...”
“Mae cyfnodau heriol yn fy hanes, ond rwyf wedi cael mwy o adegau da nag adegau heriol. Mae pobl wedi gwneud imi deimlo’r fath groeso.
Mae gen i lu o ffrindiau. Rwy’n teimlo’n unig er hynny, er fod gen i frindiau, ond rhyw unigrwydd sydd wedi bod gyda fi drwy gydol fy mywyd yw hwn, ac aiff o byth i ffwrdd.”
"
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw