Skip to main content

Cyfweliad hanes llafar gydag Daisy Maynard, Windrush Cymru, Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019 (Rhan 1)

Disgrifiadau

"“Sut mae byw? Byw bywyd da, os welwch chi rywun ar y stryd sydd ar y llawr, ceisiwch roi help llaw iddyn nhw.”
Ganed Daisy Maynard ym mis Tachwedd 1925 yn Basseterre, St Kitts. Daeth i Heol Portmanmoor, Caerdydd.
“Roedd gan fy mam wyth ohonon ni... saith o enethod ac un bachgen. Y drydedd ydw i, rwy’n credu...”
“Lle o’r enw Brimstone Hill, [St Kitts] pan ewch i fyny yno, mae’r byd i gyd i’w weld o’ch blaen...”
“[Pan ddois i yma], tua 19 oed, o leiaf... dod i weld Lloegr oedden ni, ond a dweud y gwir... pan ddois i yma, fe gawson ni ail... doedd hi ddim mor grand â hynny yma.”
“[Fy swydd gyntaf] oedd yn Super Oil Seals... os ewch chi yno, dim ond pobl croenliw sydd yno, achos mai dyna’r gwaith oedden nhw’n ei wneud...”
“Yna, fe wnes i fynd i Ysbyty Hamadryad [Butetown, Caerdydd]... [yna] roeddwn i fyny yn y Rhath... o’r fan honno... dal i symud ymlaen, Ysbyty Trelái [Lansdowne].”
“Mi fuodd gen i lu o ffrindiau erioed, hyd yn oed pan [roeddwn] yn byw yn Trelái, arferwn i fynd i’r dociau a gwneud pethau cymdeithasol.”
"

Owner:
Race Council Cymru
Crëwr:
Race Council Cymru
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
8/2/2022
Gwelediadau:
444
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment