Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Cyfweliad hanes llafar gydag Alexander Broodie yng Nghaerdydd, yn trafod ei brofiad o dyfu i fyny o fewn teulu a ymfudodd o'r Caribî yn ystod y 1950au.

“Wrth adael cartref, roedden ni’n ddall, fel pe bai mwgwd dros ein llygaid ni, yn mynd i ryw unlle o wlad, dim syniad ble’r oedden ni’n mynd, bodloni ar ble bynnag roedd y gwynt yn ein chwythu...”

Ganed Alexander Broodie yn Antigwa, India’r Gorllewin ym mis Ionawr 1925, a daeth i Brydain ar gwch yn 1955. Mae llawer o’i stori yn plethu â’r fasnach gaethweision.

“Enw’r caethfeistr oedd Broodie… ‘Adams’ oedd enw fy nhad, ond nid fy enw i... fe ddois [i Brydain] ac anfon arian i ’nhad... fe wylodd... am ei fod o’n meddwl ‘mod i am gymryd ei enw, ond fedrwn i ddim cymryd ei enw...”

“Roedd gwaith yn galed iawn [yn Antigwa], ac roeddet ti’n gweithio am fawr ddim cyflog, roeddwn i’n arfer torri gwalltiau fel barbwr i gadw dau ben llinyn ynghyd, [a hefyd yn] gweithio ar stemar... codi’r cargo a’i ollwng yn y cwch a mynd ag ef i’r lan... am y siwgwr roedden nhw’n dod.”

“Pan ddois i, wyddoch chi beth oedd fy ngwaith cyntaf i? Cario dur, ar fy ysgwydd... wyddoch chi, maen nhw’n ei doddi ac yna yn ei ddyrnu... fe wnes i adael y fan honno a mynd i iard goed... dyma’r jobsys gwaethaf, fel dwedais i, y swyddi nad ydi bobl wynion mo’u heisiau...”

“Beth oedd fy nghyflog i, £8 yr wythnos... gyda’r £8, ro’n i’n cynilo £5, yn ei roi i’r neilltu [fel cynilon], £3 dros ben, £1 i dalu’r rhent, £1 o arian poced a £1 arall ar gyfer bwyd...”

“Rwy’n gadael i ragluniaeth fy nhywys i, mae’n teimlo i mi mai dyna sy’n fy arwain i, dyna sydd wedi digwydd i mi lawer, lawer gwaith...”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw