Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth –Ysbryd y Chwibanwr. Bu Dr John Lloyd Williams, casglwr a chyfansoddwr caneuon gwerin Cymreig ar un adeg, yn athro yn ysgol Garn Dolbenmaen. Yr oedd ganddo ddisgyblion cerdd ym Mhenmorfa, Pentrefelin, Cricieth, a lleoedd eraill. Golygai hyn fod oddi cartref ddwy noson bob wythnos a cherdded pum milltir ac wedi’r gwersi, cerdded adre pum milltir yn aml yn hwyr y nos. “Un nos Fawrth, tuag un ar ddeg o’r gloch, a hi yn noson dawel braf, dychwelwn o Bentrefelin dros Benrhyddros—ffordd unig heb na thy na thwlc yn agos ati—mi glywn yn y pellter, o gyfeiriad Dolbenmaen, ryw chwibanu dieithriol. Nid oedd yn y chwiban alw o'r fath yn y byd. Fel Melchisedec, nid oedd iddi ddechrau na diwedd ond daliai ymlaen ac ymlaen heb atalnod unman. Erbyn hyn yr oedd amhendantrwydd ffurf y canu, gyda’i donyddiaeth niwlog a modern. Cododd chwillrydedd ynaf am weld ai creadur o ddyn a gynhyrehai’r seiniau rhyfedd. O’r diwedd dyma stweyn byr, llydangorff i’r golwg, cerdded yn drwm ac afrosgo, ac am ei ben het ddi-lun a’i chantal llydan yn cuddio rhan o’i wyneb. Wedi dyfod ohono gyferbyn mi rhoddais y cyfarchiad arferol, “Nos dawch!” Ond nid atebodd hwn gymaint a gair na throi i edrych, ond mynd yn ei flaen dan chwiban, chwiban, yn hollol ddi-atalnod, fel chwarae aml organ y gwasanaeth yng Nghymru. Sefais yno a gwrando ar y swn yn myned yn diminiwendo nes bod rhy wan i’r awel i gario. Ychydig a feddyliais am y digwyddiad rhyfedd hyd y nos Iau dilynol. Yn bur hwyr dychwelwn o Gncieth —ar hyd ffordd arall wrth gwrs. Wedi cyrraedd ohonaf y llwybr a arwain o’r Ynys Ddu hyd at Bompren Ystumcegid mi glywn yn wan o’r pellter chwiban yr un fath yn union a’r un a glywswn nos Fawrth. Maes o law roeddwn yn siarad gyda Hughes a oedd yn rhedeg y siop yn y pentref a dywedodd wrthyf “: " Y mae gryn hwyl ar hyn o bryd hefo carwriaeth hen lanc a hen ferch —Dewi sy’n was ffarm rhwng Pentrelelin a Chricieth. Dinah, byw ar ei phen ei hun mewn bwthyn yn ymyl yma. Bob nos Fawrth a nos lau daw Dewi i edrych am Dinah, a throi adre ar ôl cael swper ganddi. Dau simpl ofnadwy ydyw'r carwyr, y mae Huw’r gwas yma bron mor simpl ag hwythau, ond maent dweud eu holl gyfrinachau wrtho. Y dydd o’r blaen daeth Huw ataf a dweud, “Mistar, y mae Dewi mewn styffig ofnadwy—y mae chwilan yn ben o bod rhywun yn ’i witsio fo a Dinah, ac anfon ysbryd drwg i’w flino bob tro yr aif i edrach am Dinah”. Yna ychwanegodd Hughes bod Dewi'n ceisio osgoi yr ysbryd trwy ei ffordd adref ond bod yr ysbryd siwr o’i gyfarfod pa ffordd bynnag yr âi ac mae Dinah bron a mynd i ’sterics ac yn ceisio perswadio Dewi i beidio dod ar ei chyfyl rhag i’r ysbryd beri diwedd ei hanwyliyd”. Dechreuais weld goleuni ar bethau a gofynnais: “A fydd Dewi yn chwislo wrth fynd adre o’i ymweliadau ? “Chwislo ! ebe Hughes, bydd yr holl wlad yn gwybod oblegid ni phaid Dewi a’i chwiban nes ei gyrraedd adre’n ddiogel." Eglurodd ymhellach fod Dewi arswydo rhag nos a bod y chwislo’n ateb tri diben — datgan ei lawenydd feddu Dinah, cadw ei ysbryd ei hun i fyny, a chadw draw ysbrydion drwg. ’’ Wel,” ebe finnau, mi wn i am ffordd i gael gwaredo’r ysbryd drwg sy'n aflonyddu ar y ddeuddyn.” Yna dywedais yr holl hanes, Hughes yn ei ddyblau yn chwerthin am y cyd-ddygwyddiadau rhyfedd ac arswyd cynyddol Dewi o’u herwydd. Ac ychwanegais : “Y mae’n amlwg bod carwriaeth Dewi a Dinah llawer pwysicach na’r gwersi cerddorol, am hynny mi newidiaf nosweithiau yn ffafr y carwyr—ni bydd y canwyr yn ddim gwaeth.” A dyna a wnaed er dirfawr ryddhad i’r ddeuddyn serchog.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw