Cricieth – Crempogau.
Disgrifiadau
Cricieth – Crempogau. Dydd Mawrth Ynyd a elwir hefyd yn Ddiwrnod Crempog yw'r diwrnod cyn Dydd Mercher y Lludw, sef diwrnod cyntaf y Grawys ac felly, yn draddodiadol, y diwrnod olaf o wledda cyn ymprydio'r Grawys, pan ddefnyddiwyd y cyflenwadau olaf o flawd, wyau, menyn a llefrith i wneud crempogau. Canwyd y gloch am ddeg o’r gloch a rhuthrodd pawb i wneud crempogau. Roedd rhaid i bawb daflu eu crempog eu hunain yn y badell ffrio os oedden nhw eisiau lwc y flwyddyn i ddod. Bu llawer o ddoniolwch pe byddai rhywun yn methu a syrthiodd y grempog ar y llawr; i hyfrydwch y cŵn! Cofnododd Myrddin Fardd, yr hynafiaethydd o Chwilog, fod ymladd ceiliogod yn boblogaidd yn ystod y dydd a gêm yn ymwneud â hela ieir. Fel arfer roedd gêm o bêl-droed. Un arferiad oedd i'r plant a'r tlodion fyned o amgylch y fro, gan alw mewn bythynnod a ffermydd, pryd y galwyd allan y pennill canlynol.
Modryb Elin Ennog
Os gwelwch chi’n dda ga'i grempog,
Cewch chithau de a siwgr gwyn,
A phwdin lond eich ffedog.
Modryb Elin Ennog
Mae 'ngheg i'n grimp am grempog,
Mae mam yn rhy dlawd i brynu blawd,
A Siân rhy ddiog i nôl y triog,
A 'Nhad yn rhy wael i weithio,
Os gwelwch chi’n dda ga'i grempog.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment