Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cafwyd diwrnod ysbrydoledig yng nghoetiroedd hyfryd a mawreddog Pentre Ifan; yn archwilio’r ffordd y gall ein cysylltiad hynafol â thirwedd a natur Preseli ddylanwadu ar ein hiechyd a’n lles. Dan arweiniad Andrew Dugmore o Reconnect in Nature (reconnectinnature.org.uk) gwnaethom rannu ein teimladau o fod yn yr awyr agored yn nhirwedd Preseli, ac arbrofi gyda thechnegau ymwybyddiaeth ofalgar i’n helpu i ddeall a dyfnhau ein cysylltiad â’r byd naturiol. Buom hefyd yn siarad am y ffyrdd y byddai ein cyndeidiau wedi byw a faint yn agosach at natur a’r awyr agored y byddent wedi bod; gan eu bod yn dibynnu arno am eu hanfodion sylfaenol a’u goroesiad.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw