Llwy garu gyda cheffyl a marchog, 19eg ganrif
Llwy garu gyda cheffyl a marchog, 19eg ganrif
Disgrifiadau
Mae cerfio llwyau caru yn un o'r traddodiadau mwyaf adnabyddus yng Nghymru, fe ddechreuodd tua'r flwyddyn 1667 ac mae wedi parhau hyd heddiw. Yn ystod cyfnod pan oedd addurn personol yn brin, roedd y llwyau hyn yn cynnig cyfle i'r crefftwr ddefnyddio ei ddychymyg a'i greadigrwydd. Mae'r llwy hon wedi'i gwneud o onnen, gyda powlen wedi'i cherfio yn siâp calon, wedi'i choroni gan ddau ffigur. Mae'n bosibl bod y gilfach yn yr handlen fawr yn cynnwys drych neu lun. Mae dyn ar gefn ceffyl yn coroni'r handlen.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment