Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyma'r cwilt digidol rhyngweithiol a grëwyd gyda’r gymuned trwy gyfres o weithdai gyda Celfyddydau SPAN a’r artist tecstilau Nia Lewis yn cael ei arddangos. I gyd-fynd â’r gwaith pwytho a thecstilau creadigol, bu Penny D Jones yn cofnodi ac yn casglu straeon ac atgofion lleol i’w gosod ar y cwilt. Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys darnau unigryw o waith celf gan blant lleol. Denodd yr arddangosfa nifer dda iawn o bobl gyda dros 350 o ymwelwyr o’r ardal leol a thu hwnt yn dod at ei gilydd i brofi a rhannu eu treftadaeth a’u diwylliant arbennig.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw