Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Daw'r garreg iachusol hon a'r bag o Gilfach Wen, Llandysul. Byddai darn bach o'r garreg hon, sef gypswm, yn cael ei grafu i ffwrdd a'i gymysgu â llaeth i drin 'hydrophobia' neu ofn dŵr, un o symptomau'r gynddaredd. Roedd y garreg hon mor adnabyddus y byddai pobl a oedd wedi cael eu brathu gan gŵn gwyllt yn teithio pellteroedd mawr i Gilfach Wen yn y gobaith o gael gwellhad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw