Cricieth - y Rhyfel-longau yn ymweld.
Disgrifiadau
Cricieth - y Rhyfel-longau yn ymweld.
Yn Siambr y Cyngor yn yr hen lyfrgell mae ffotograff wedi'i fframio o HMS BARHAM, rhyfel-long mawr. Cyflwynwyd hwn i'r dref pan ymwelodd y llong â Chricieth yn ystod gorymdaith gan ran o fflyd Prydain yn ystod dathliadau buddugoliaeth ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.
BANER AC AMSERAU CYMRU MEDI 27 1919.
“CRICIETH - Y RHYFEL-LONGAU YM MHWLLHELI AC ABERYSTWYTH. Dydd Llun ymadawodd yr ail sgwadron o ryfel-longau, dan lywyddiaeth yr Is-lyngesydd Syr Arthur C. Leveson, o fae Pwllheli, ar eu mordaith ddychweliad i Aberystwyth. Bu tyrfaoedd o bobl ar ymweliad a'r llestri dydd Sul, yn eu mysg Mrs. Lloyd George a'i merch, Mrs. Carey Evans. Rhoed iddynt dderbyniad gwych. Yn ystod yr hwyr defnyddiwyd peiriant chwilolau (' search-light ') gydag effeithiolrwydd a syndod yr holl wlad oddi amgylch. Treiddiodd y golau hyd i'r Wyddfa, gan mor llachar ydoedd, a chadwyd ef i chware ar Brynawelon, Cricieth, cartref Mr Lloyd George, am amser maith. Meddyliodd rhai pobl ym mhell o'r môr mai rhyw ymweliad goruwchnaturiol ydoedd”.
----------------------------------
Roedd diwedd y BARHAM yn ofnadwy. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra yn y Môr Canoldir cafodd ei tharo gan dorpido o long danfor Almaeneg ar Dachwedd 24ain 1942 a chwythodd i fyny mewn ffrwydrad aruthrol. Lladdwyd 862 o'i chriw o 1258.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment