Skip to main content

Cricieth - Anghenfil Môr.

Disgrifiadau

Cricieth - Anghenfil Môr.

Y GENEDL 10 HYDREF 1916

PYSGOTWYR MEWN DYCHRYN

Yr wythnos diweddaf aeth Mr Robert Evans, Dinas Terrace, Cricieth, a’i fab, allan mewn cwch i bysgota. Ar ôl mynd gryn bellter o’r lan rhoesant y bad yn angor a dechreuasant ar eu gorchwyl, ond yn ddisymwth ymddangosodd “Creadur” anferth yn gwneud ei gyfeiriad atynt, a daeth yn ddigon agos i’r tad roi dyrnod iddo yn ei ben, yr hyn a fu yn foddion i’w yrru encyd o ffordd yn ei ôl. Ond trodd am y bad drachefn, ac felly bedair gwaith. Yn yr ymosodiad diweddaf gallodd Evans ei daro yn ei lygaid a’r rhwyf, yr hyn a achosodd i’r ymosodwr roi ysgrech gan suddo i’r dyfnder, a disgynnai blaen ei gynffon braff y tu allan i ochr y bad, gan daro'r dwfr, a pheri i gyflawnder o ddyfroedd i fyned i’r bad. Cyn gynted ag y cawsant wared â’r gelyn, gwnaethant am y lan mewn ofn a dychryn mawr gan ddyfalu pa ryw greadur allai hwn fod.

Owner:
Cricieth Enwau Chwedlau a Chân Criccieth Songs Places and Legends
Crëwr:
Robert D.Cadwalader - Ffion Gwyn
Gwybodaeth drwydded
Trwydded Archif Greadigol Creative Archive License
Eitem wedi’i llwytho:
9/1/2022
Date originally created:
7/1/2022
Gwelediadau:
828
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment