Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r sampler hon wedi'i dominyddu gan ddau aderyn mawr, lliwgar wedi'u gosod yn y canol. Mae dau Giwpid, cŵn, ceirw a blodau wedi'u trefnu o amgylch y motiffau adar mawr. Mae'r wneuthurwraig wedi brodio'i henw a phennill yng nghanol y sampler: 'Margaret Davies, aged 19 years 1853 and Adam said this / when my father and mother is now bone(sic) of / forsake me then shall the Lord shall take me up.' Mae gan Amgueddfa Sir Caerfyrddin sampler arall gan Margaret Davies, ac mae'n bosibl mai'r un wneuthurwaig ydyw. Mae'n ymddangos mai iaith gyntaf Margaret Davies oedd Cymraeg, ac mai dyna'r rheswm pam na lwyddodd i orffen ei phennill. Roedd y rhan fwyaf o sampleri yn cael eu gwneud gan wneuthurwyr ifancach ac ni wyddys pam i Margaret Davies barhau i wneud sampleri hyd nes ei bod yn bedair ar bymtheg, er mae'n bosibl ei bod yn ddisgybl-athrawes. Wedi'i frodio mewn pwyth croes a phwyth satin mewn gwlanoedd lliw ar gynfas rhwydwaith dwbl. Mesuriadau: 50cm x 69cm.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw