Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Photograph of Renate Collins as a young girl.

Renate Collins - bywgraffiad byr.

Ganwyd Renate Collins ym 1933 ym Mhrâg. Unig blentyn Otto (banciwr) a Hilda (nyrs), magwyd Renate ar aelwyd Iddewig. Roedd Otto o'r Almaen yn wreiddiol, felly siaradodd Renate Tsiec ac Almaeneg gartref.

Pan orymdeithiodd yr Almaenwyr i mewn i Prague ym mis Mawrth 1939, gwnaeth rhieni Renate y penderfyniad i'w hanfon i Gymru. Dihangodd ar y trên olaf Kindertransport i adael Tsiecoslofacia cyn i'r Ail Ryfel Byd ddechrau. Mae hi’n cofio bod ‘Milwyr yr Almaen ar y platfform a phan oedd y trên i fod i fynd allan, fe wnaethant ddal dwylo i wneud llinell fel na allai’r rhieni neidio ar y trên.’

Dim ond pum mlwydd oed oedd hi pan adawodd Prague. Mynd ar y trên oedd y tro diwethaf iddi weld ei rhieni. Llofruddiwyd ei rhieni a'i neiniau a theidiau yr Holocost. Yn gyfan gwbl, collodd 64 aelod o'i theulu yn ystod yr Holocost.

Cafodd Renate ei faethu gan deulu o Gymru ym Mhorth, De Cymru. Dysgodd Renate Saesneg yn gyflym ac ymgartrefodd i fywyd yn ei hysgol a'i chymuned leol. Roedd hi'n chwaraewr hoci brwd, ac roedd hefyd yn mwynhau garddio. Mabwysiadodd ei rhieni maeth, Sidney ac Arianwen Coplestone, hi ar ôl iddi gael ei naturoli ym 1947.

Ar ôl gadael yr ysgol, astudiodd gyfrifeg, teipio a llaw-fer yn y coleg, a bu’n gweithio i BOAC, rhagflaenydd British Airways. Yn ddiweddarach, priododd ei gŵr, David, a symudodd i Gernyw, ac mae ganddi ddau o blant a phump o wyrion. Dychwelodd i Gymru yn 2001, er ei bod bellach wedi symud yn ôl i Gernyw. ‘Dwi ond yn drist nad oedd gweddill fy nheulu yma i fod wedi mwynhau bywyd hefyd,’ meddai.

Ffynhonnell.

Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Renate Collins [cyrchwyd 22 Rhagfyr 2021]

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw