Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Sgwrs gan Dilys Jones (yn Saesmeg) am ei thad-cu, Richard Lewis Jones, Penwenallt, Cwm Cou, Castellnewydd Emlyn, yn seiliedig ar bapurau R. L. a'r dyddiaduron a gadwodd rhwng 1915-1932. Ceir darlun o'r cyfraniad a wnaed ganddo i'r gymuned amaethyddol yn ne'r sir rhwng y ddau ryfel byd, yn cynnwys hanes tenantiaeth fferm Penwenallt a'i gyfraniad i'r ymdrech genedlaethol i gynyddu cynhyrchu llaeth, sefydlu ffatri laeth yng Nghastellnewydd Emlyn yn 1920 a chymryd rhan yn nhreialon Bridfa Blanhigion Cymru. Yn dilyn hynny wedyn ceir hanes ei gyfraniad i'r Sioe Frenhinol, yn cynnwys ei gyfnod fel Is-lywydd a hefyd cyfarwyddwr da byw y Sioe Fawr, a'r penderfyniad i fabwysiadu safle parhaol i'r sioe yn Llanelwedd (1960).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw