R. L. Jones, 'Gweinidog Amaeth Sir Aberteifi' (1885-1960)
Disgrifiadau
Sgwrs gan Dilys Jones am ei thad-cu, Richard Lewis Jones, Penwenallt, Cwm Cou, Castellnewydd Emlyn, yn seiliedig ar bapurau R. L. a'r dyddiaduron a gadwodd rhwng 1915-1932.
Ceir darlun o'r cyfraniad a wnaed ganddo i'r gymuned amaethyddol yn ne'r sir rhwng y ddau ryfel byd, yn cynnwys hanes tenantiaeth Penwenallt a'i gyfraniad i'r ymdrech genedlaethol i gynyddu cynhyrchu llaeth, sefydlu ffatri laeth yng Nghastellnewydd Emlyn yn 1920 a chymryd rhan yn nhreialon Bridfa Blanhigion Cymru. Yn dilyn hynny wedyn ceir hanes ei gyfraniad i'r Sioe Frenhinol, yn cynnwys ei gyfnod fel Is-lywydd a hefyd Cyfarwyddwr Da Bywr y Sioe Fawr, a'r penderfyniad i fabwysiadu safle parhaol i'r sioe yn Llanelwedd (1960).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment