Skip to main content

Heddlu Morgannwg 1922

Disgrifiadau

Ffotograff mawr 30" x 24" mewn ffrâm dderw yn dangos heddwas o Adran 'F'  Heddlu Morgannwg. Mae'n bosib iddo gael ei dynnu ar dir Castell Caerffili. Câi Adran 'F'  hefyd ei hadnabod fel Adran Ystrad Mynach. Er nad yw wedi ei gadarnhau eto, tybir bod y ffotograff yn dangos y Sarjant Henry Merrett,  a ddechreuodd ei yrfa yn yr heddlu yn Nhrefforest, Pontypridd, mae'n debyg. Ar ei ymddeoliad, credir iddo fod wedi ei leoli ym mhorthordy'r heddlu yng Nghefn Mabli. Cafodd y llun ei roi yn rhodd gan deulu Henry Merrett.Casgliad *The Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection.

Owner:
ROSS MATHER
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
28/10/2021
Date originally created:
28/10/2021
Gwelediadau:
437
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment