arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterNoddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles ar y diwrnod pan gynhaliwyd y gwasanaeth olaf yng Nghapel y Methodistiaid Calfiniaidd Capel Celyn, 28 Medi 1963. Anfonwyd yr heddweision, Wil Jones, Fron-goch, a Ken Williams, Y Bala, i'r ardal i gadw golwg ar ddigwyddiadau'r diwrnod.

Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw