Atebion i Holiadur 1971 gan M. Eliane Jones
Disgrifiadau
Nodiadau gan Miss M. Elaine Jones, Dowlais am fwydydd a chadw t_. Fel ymateb i holidaur Yr Amgueddfa Werin Cymru, 1971.
Trawsgrifiad
F71.58 [MS 1714]
Patrwm Bwydydd a Chadw Ty
ARDAL- GWAS AR Y FFERM
A
Bwyd yn nhymor y gaeaf
1.Bwyteid cawl i ginio a cawl ail-dwym i swper.
Bwyteid y cinio am ddeuddeg, i un o’r gloch.
2.Bara caws, a hwnnw heb fenyn ambell waith,, oedd ei brecwast a bwyteid hwnnw, ar ôl dwy awr o waith, am wyth o’r gloch.
Ceid bara menyn a caws i de am bedwar o’r gloch. Y cawl ail-dwym oedd ei bwyd i swper a ceid hwnnw rhwng saith a wyth o’r gloch y nos.
3.Mewn ambell i ardal ceid beth a elwid yn ‘Tê Deg’ ac fe geid hwn yn yr haf a’r gaeaf. Yn yr Haf ‘roeddynt yn cael tê a bara gwenith.
B
Bwyd yn Nhymor yr Haf
1.Brecwast- Bara a caws a tê.
Cinio- Tato a cig mochyn ar yr wyneb neu cawl.
Tê- Tê a bara menyn
Swper- Tê, bara menyn a caws neu cawl ail-dwym.
2.’Roedd bwyd y gaeaf yn well am fod digon ohono ac ‘roedd y stemog yn llawnach.
3.Bwyd y gaeaf oedd yn hawsaf i’w ddarparu hefyd am fyddai rhaid cario bwydydd allan i’r caeau at y gweision, yn yr haf.
4.Ni cheid dim amrywiadau ym mwyd yr wythnos. ‘Roedd hyn yn bod achos fod Sir Aberteifi yn llwm a’r bwyd felly yn waeth na’r siroedd eraill.
5.Ni newidid y bwyd oherwydd digwyddiadau arbennig.
[MS 1714_0002]
C.Bwyd y Sul
1.Yr unig moethyn a gânt ar y fferm oedd iâr a hynny ambell waith yn iawn. Yn nhy’r gwladwr cyffredin ystyrried losin o’r farchnad, biscedi, a theisen larol yn rai moethau.
2.Nid oedd dim gwahaniaeth ym mwyd y Sul.
CH. Gweithwyr
1.Y forwyn â baratoai’r bwyd a’r fistres yn ei gwylio.
2.Y pen forwyn gyda help y feistres.
D. Ystafelloedd y ty
1.Gegin fawr; lleithdy; cegin fach; a’r parlwr.
2.Gegin fach
3.Gegin fawr
4.Mainc
DD. Lle Bwyta
1.Ceginfawr
2.Ceginfawr hefyd ond ar wahaniaeth ford a’r teulu
3.Na
4.Gyda’r gweision
E. Offer Cegin
1. a) Cigwain, padell frio a ffwrn wal oedd y prif offerynnau i ddigoni cig.
b) Dysglau pridd
c) Ffiolau
2. a) Prynwyd y llestri pren gyda dwrniwr lleol ac roedd un yn byw yn Nhregroes yn Sir Aberteifiyn yr amser hyn.
b) Prynwyd y llestri pridd yn y ffeiriau a’r farchnad ac yn y siopau.
c) Prynwyd lestri copr a prês ambell waith ond ‘roedd
[MS 1714_0003]
rhain yn ddrud iawn. Ceid hwynt yng ngwahanol siopau.
F. Yr Wythnos Waith
Dyma drefn gwaith gwraig y ty: -
Llun: Golchi
Mawrth: Smwddio
Mercher: Cywiro
Iau: Pobi
Gwener: Glanhau
Sadwrn: Marchnad
G. Gwaith Gyda’r Nos
1.Gwaith y gwas fyddai i ofalu ar ôl yr anifeiliaid. Gwaith y gwraig fyddai gweithio canhwyllau erbyn y gaeaf.
2.Yr un oedd gwaith y gwas ond fe fyddai’r wraig yn mynd at ii wau sannau. Peth arall fyddant yn hoff o’i wneud oedd darllen y Beibl.
Ng. Maethu
1.Maethyn y gwas ffarm oedd cael mynd adref i gael pryd o fwyd da gan ei deulu. Maethau eraill oedd cael losin o’r farchnad, biscedi, a cheiser lard.
2.Mint, teim, a safri fach.
3.Bresych, moron, erfinen, a cennin.
H. Bwydydd tymhorol.
1. a) Ebrill hyd Hydref oedd tymor yr ymenyn ffrês. Tatws, menyn, a llaeth enwyn
b) Yn yr haf y gwneid y caws.
c)
dd) Gwnaed darten allan o lysiau’r ardd.
d)
[MS 1714_0004]
dd) Byddent yn ffrio grawn unnos â’i ddefnyddio i flasu rai bwydydd.
e) Nid oedd gweision y fferm hon yn cael pysgodyn o gwbl ond yn y wlad caent macrell a cod o Gai Newydd.
f) Ceid brythyllod a eogiaid o’r afon Teifi. Gwerthid hwy yn y farchnad.
ff) Ceid gwningen ambell waith. Hefyd ysgyfarnog, a ffesant i’r gwyr mawr yn unig.
I. Bwydydd Adegau arbennig
a) Ar benblwydd y feistres
b) Na
c) Plymru
ch) Bara a cig mochyn wedi berwi a bwdram a’i ôl.
d) Llaeth oer a bara menyn a geid a nid gwyrdd.
dd) ‘Roedd dim gwahaniaeth ym mwyd nadolig y gweision ond gwyrdd neu borc oedd y prif fwyd yn y cartref
L. Darpariaethau
a) Byddent yn lladd mochyn yn Nhachwedd a hefyd lladdent eidion ambell waith .
b) Gwnaed
c) Gwnaed
ch) Sychid saets, teim, persli a cenin syfi.
d)Roeddent yn gweithio llawer o jam e.e. rhiwbob, cwrents duon, a gwsberau.
dd) Ni waned catwad
e) Byddent yn piclo winwn ac wyau
f) Ni ddarperid lawer o bysgod erbyn y gaeau. Bwyd cefn arall fyddent yn darparu oedd tatws. Claddent hwy yn y ddaear a’i cuddio gan wellt a phridd rhag iddynt rewi.
[MS 1714_0005]
LL. Bwydydd Cleifion
1.Bara llaeth, wyau, a seican
2.Rhos mari oedd mwyaf boblogaidd a defnyddid hwn i wella anwyd.
M. Bwydydd Plant.
1.Llaeth buwch, wyau, ac uwd oedd rhai o’r bwydydd.
N. Bwydydd Priodas.
1. Arferiad amser priodas fyddai i ferwi cig mochyn neu eidion.
O. Bwydydd Angladd.
Bwydydd fel bara menyn, caws, teisiennau, teisen, lap ac yn y blaen y ceid mewn angladd.
P. Bwydydd Brys.
Tatws rhost neu tatws drwy’r pil oedd rhai o’r bwydydd y medrent baratoi ar brys.
PH.
R. Darpariaethau Meddyginiaethol.
1.Rhosmari.
2.Darperid rai moddionach e.e. eli at ‘shingles’.
3.’Roedd yna un wraig yn byw yn ardal Felindre, Llandysul a oedd yn gweithio yr eli hyn.
RH. Glendid a Phurdeb
1.
2.Cadwyd gathod a trapiau i ddal llygod.
3.Cagwyd y cig wrth ei halltu a’i hongian.
4.Drwy ddefnyddio camffyt
5.Aed allan a’r gwely plu i’r awyr agpred yn yr hindda ac ‘roedd hyn yn help i beidio magu chwair.
[MS 1714_0006]
S. Darpariaethau Ty ôl.
1.
2.Dechrau’r flwyddyn er mwyn cael dillad newydd erbyn y gwanwyn. Ef byddai yn gweithio dillad i’r teulu, i’r gwrwod yn hytrach na’r mewnod.
3.Y wriadyddes oedd yn gweithio dillad y gwragedd. Prynwyd y gwlân yn ffair y dref ac yna fe gaiff y wniadyddes ef. Hefyd hi fyddai yn cywiro dillad y teulu.
4.Ceid hiel gobenni’r gwely yn y ffatrïoedd gwlân o’r marchnadoedd. ‘Roedd yn ddefod i bob teulu i weithio cwilt i roi ar ei gwely hefyd.
5.Paratoënt y canhwyllau i gyd yn yr haf.
6.Nid oeddent yn lliwio.
T. Arian Parod.
1.Gwraig y ty fyddai yn cael arian yr wyau.
2.Bwydydd i’r ty sef tê, siwgr ac ambell un moethyn, a gâi o’r siopao.
3.
4.Gwneid rhain yn arbennig iddynt gan seiri.
TH. Tlodi
1.Yr unig enghreifftiau o dlodi a glywid sôn am oedd gweld plant a’u dillad yn garpiog.
2.
3.Llosgwyd y gwenith drwg.
4.Gwerthu llaeth glân.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment