Disgrifiad

Nodiadau manwl gan Yr Athro T.J. Jenkin (Aberystwyth) ar ddefaid, fel ymateb i holidaur Yr Amgueddfa Werin Cymru, 1957.


Trawsgrifiad

[MS 1152_0001]

                   Diwrnod gwaith cyffredin ers lawer dydd.

 

Atodiad yw hen i’r Holwyddorog ar Ddiwylliant Gwerin (cloriau melyn). Os gellwch ymdrin yr un mor fanwl ag unrhyw bwnc arbennig yn yr Holwyddoreg honno,byddwn yn dra diolchgar. Byddwn bob amser yn barod i anfon cyfarwyddyd pellach ynglŷn ag unrhyw bwnc. Anfoner pob atebion ac ymholiadau at y Ceidwad, Amgueddfa Werin Cymru,Sain Ffagan,Caerdydd.

 

Awgrymiadau am y math o wybodaeth i’w chofnodi.Nodwch eich enw, am ba aledigaeth yr ydych yn sôn,ym mha ardal , ac ym mha adeg yn y gorffennol.

 

1.     Amser codi arferol. Pawb yr un amser? Unrhyw waith cyn brecwast? Beth oedd amser brecwast a beth a fwyteid? A fyddai pawb yn cael yr un bwyd ? A oedd enw arall am frecwast? A oedd hi’n arfer I gadw dyletswydd ? Os felly, pa bryd yn ystod y dydd? Pwy fyddai’n cymryd rhan ? ( Pawb yn ei dro?)

2.     A oedd hi’n arfer i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio ? Os felly,pa fwyd ? Beth oedd enw’r pryd ac ymhle y bwyteid ef? A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?

3.     Am faint o’r gloch yr oedd cinio fel arfer ? A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? A oedd enw arall am ginio? A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?

4.     Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y pnawn, a beth oedd yr enw ( neu enwau) arno ? Beth a fwyteid ac ymhle?

5.     Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos a beth oedd yr enw ( neu enwau) arno? Beth a fwyteid, a phwy fyddai yno – y gweison er enghraifft ?

6.     Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn,er enghraifft , godro neu ddyrnu a ffust ? Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld ȃ’u cymdogion ? A beth am y dynion? Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? ( Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau “cerdded tai” neu “cymowta”, er enghraifft).

7.     Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely ? A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd.

8.     Yr oedd yr adeg ar y flwyddyn,mae’n siwr,yn gwneud gwahaniaeth i rai o’r pethau a’r amserau yr ydych wedi eu hysgrifennu wrth ateb yr  uchod; er enghraifft, a oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r haf? A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu,neu yn ystod y cynhaeaf ? Byddai’n help pe gallech nodi’r amrywiadau hyn yn nhrefniadau’r diwrnod gwaith.

9.     Yn olaf, beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd ( neu’r rwmydd) tŷ yn eich ardal ? A beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morwynion ( er enghraifft, “ hwsmon”,” gwas mawr” ac enwau tebyg). Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal ?

 

 

[MS 1152_0002]

                                             Defaid.

(1)                 Ysgrif tu 1960

Nid yw yr ysgrif hon i fod lawn mor ben–agored ag yr awgryma’r teitl. Ni fwriadaf son,a cheiso bod yn awrduddodol ar ddefaid yn gyffredinol. Nid yw yr ysgrif ychwaith i fod yn hollol gyfyngedig i ddefaid a addwaenwn i fel yr ysgrif honno yng Nghymru’r Plant tua 60 mlynedd yn ol ar “ Cwn Addwaenwn I “,un o ba rai,os cofiaf yn iawn,oedd “ Pero Sion Ffowc”. Hwyrach y troaf finnau cyn y diwedd hefyd i son am gwn. Cawn weld.

                               Defaid fy nghartref,Budloy,yn sir Benfro a ddaw yn naturiol i’m meddwl gyntaf ond bron ar yr un pryd daw defaid y Preselau yn gyffredinol i’m cof,er mai ychydig gysylltiad uniongyrchol oedd rhyngddynt o fewn fy nghof i nac, yr ol pob tebyg,am lawer blwyddyn cyn hynny. Er bod mynydd Budloy yn codi i dros naw can troedfed o uchder a llawer o honno yn dir grug un o ffermydd godreuon y Preselau oedd Budloy, er,hyd yn oed ar ol rhannu yr hen Budloy a rhoddi rhan o’r mynydd i wneud mynydd y Gotty ( Uchaf), nid oedd mwy na thua hanner milltir rhwng un cwr o hono a’r Preselau agored oedd yn dechrau yn y rhan honno ym “ Mynydd y Felin Wynt” sef y gangen honno o’r Preselau a redai i lawr drwy’r Cnwcau o ben Moel Cwm Cerwyn hyd ddrws siop Miss Pritchard ym mhentref cymharol newydd Rhos-y-Bwsh,neu,fel yr ail-enwyd y lle gan J. B. Macaulay, “Rosebush”,ac er bod ambell i hen glawdd, hollol aneffeithiol,rhwng pen Moel Cwm Cerwyn a Rhos-y- Bwsh, a bod yr hen felin wynt ar y darn o’r mynydd a berthynai i’r Pantmawr,yr oedd y Preselau, i mi, yn dechreu yn Rhos-y-Bwsh,ac awn o leiaf unwaith bob wythnos, ar negeseuon i sio Miss Pritchard ac felly gwelwn rai o ddefaid Pantmawr yn aml iawn.

                        Ni gwn i yn fanwl o gwbl ym mha le yr oedd terfynau tir agored y Preselau nac ychwaith pa rannau o hono oedd yn dir perchen a pha rannau o hono oedd yn dir yn perthyn i’r Goron o dan Arglwydd y Faenor – Lloydiaid y Bronwydd – ond cofiaf am weld rhai yn “Cerdded Poseshwn” ( Possession) ar hyd ffiniau meddiant y Goron pan oeddwn yn ifanc iawn ac yn taflu fflag dros ben yr hen fwthyn bychan,Penffyrdd ( Ty Nansi) am fod rhan o hono ar y comins.

                   Ond,beth bynnag,cyrhaeddai y Preselau agored o rywle yng ngyfeiriad Cwmgwaun,ar hyd y Banc Du,Foel Eryr,Mynydd Du,Moel Cwm Cerwyn ac ymlaen y tu cefn i Fynachlogddu hyn  rhywle yn tynnu yn agos iawn at Crymych fwy neu lai o’r gorllewin i’r dwyrain gan gynnwys y llechweddau i’r gogledd ac i’r deau.

                                                Ni gwn i ychwaith sut y rhennid y Preselau yn cynefinoedd defaid,merlod a gwartheg mewn cysylltiad a’r ffermydd a’r tyddynod bychain ar hyd y godreuon.Nid oedd hawl anifeiliaid gan Budloy ar y Preselau ond dywedai fy nhad bod hawl tywarch (turbery rights) gan Budloy i fyny yng Nghwm Ceidrym. [CEUDRUM?] Ni chlywais iddo ef na’i dad yntau ddefnyddio hawl honno erioed.

Hwyrach yr a fy nghof am ddefaid ( a gwartheg) yn ol ym mhellach na’m cof am ddim byd arall o herwydd cymeron i ddiddordeb arbennig iawn ynddynt. Bwriedais lawer tro i gael ymgom hir a manwl gyda’m hen gyfaill,y diweddar Peter Edwards am ddefaid y Preselau. Yr oedd ef ryw bum neu chwe mlynedd yn hŷn na mi a chollais y chyfle o herwydd fy mhyrysurdeb i fy hun. Magwyd ef yn y Dafarn Newydd. ( Dywedai fy nhad mai hen enw,ac enw iawn y ffarm hon oedd “ Nantyddwylan” ac y mae yn amlwg ei fod yn iawn,o herwydd yn hen lyfr cyfrifon Budloy ceis bod John Howel a oedd yn ddeilad rhwyn i Budloy ac yn byw yn y Ddolwen) yn ol hyn-a-hyn y dydd wedi colli diwrnod yn y flwyddyn 1860 –

                                              “ cuting [sic] hay nantyddwylan “.

                                                                                                   Yr oedd rhediad defaid Nantyddwylan yn ran o dir agored y Preselau a chredaf,er mai y Banc Du oedd “mynydd” arbennig y ffarm,bod y defaid yn mynd hyd ben Foel Eryr. ( Nid yw hyn yn swnio yn Gymraeg da,ond ni fyddem ni fyth yn son am “y Foel Eryr” na “Moel Eryr” nac ychwaith am “Moel Cwm Cerwn” nac “ Y Foel Cwm Cerwn”.Os soniai neb am fynd “i ben Fwêl” cymerid yn ganiataol mai “Moel Cwm Cerwn” y cyfeiriai ati. Sylwer hefyd mai ein henw lleol ni am “Moel Eryr” oedd “Foel” neu yn hytrach “Fwêl Ery”- ac ni wyddem ni y gallai mai am “Eryr” y sefai “Ery”. Erbyn hyn nid wyf yn rhy sicr bod “Eryr”yn iawn).

                     Magwyd Peter felly ymhlith defaid y Preselau eu hunain,a chan ei fod rai blynyddau yn hŷn na mi byddai yn cofio yn well beth a ddigwyddodd i’r defaid ar y Preselau rhywle tua 1890 – 1893. Paham na ofynwyd iddo ef neu i  …… Davies, Glynsaithman siarad ynghylch y Preselau yn hytrach na Titus Lewis pan ddarlledwyd rywdro ynghylch Maenclochog,sydd ddirgelwch anesboniadwy

 

[MS 1152_0003]

i mi. Ni gwn i am neb arall sydd heddyw yn fyw a allai fod o help arbennig i mi ynglyn a defaid ( a chwn ) y Preselau cyn fy amser i fy hunan ac ni fu’m i erioed yn byw a bod yn eu plith.

                 Er hynny cefais lawer o gyfleusterau i’w hadnabod. Fel y nodais yn barod yr oedd y Preselau eu hunain yn cynwys y Cnwcau,a thir y Cnwc isaf a’r ddau “mynydd y Felin Wynt” yn dod i lawr i bentref Rhos -y- Bwsh. Bob haf,fynychaf “ rhwng y ddau gynhaeaf ”,cyn estyn y “lein fach” ymlaen,yng nghyntaf i Dreletert ac yna i  Wodig(sic) (Goodwick) elem am ddiwrnod “i ddwr y mor” yn Tydrath (Trefdraeth) a’r ffordd i fynd yno oedd troi tua’r mynydd yn Nantyddwylan,heibio i’r Dolau Bach a Thyllong,heibio i’r Temper (gwelais yr enw hwn wedi ei ‘sgrifennu “Temperness” yn rhywle,ond Temper ydoedd i mi),dros ben Bwlch Gwynt,i lawr yr ochr ogleddol i’r mynydd hyd Dafarn -y – Bwlch gan adael y mynydd yno.Ar hyd yr un ffordd o Nantyddwylan i Dafarn -y – Bwlch (a’r ffordd lawr o Hwlffordd i Aberteifi oedd honno) yr elem i’r Hendre gerllaw Crosswell,Eglwyswrw,lle yr oedd fy modryb a’i theulu yn byw a hynny yn fwy mynych nag unwaith yn y flwyddyn,fel yr oedd godre’r Preselau eto yn dod hyd at y ffordd ym Mrynberian ac o hynny ymlaen. Bum hefyd i fyny i ben Foel Cwm Cerwn unwaith pan yn ifanc iawn – mynd,fel teulu,mewn cart ( yr oedd y ffordd yn rhy arw i’r trap) gan droi i fyny yn ymyl Ty Nansi ac ar hyd Ffordd y Cefn ( nid y ffordd sydd yn mynd o Ysgol [Hyd] i Fynachlogddu) hyd nes yr oedd honno yn peidio a bod a dringo’r foel ei hun. Bum ar ben “Y Fwêl” hon droion wedi hyn, a bum hefyd unwaith ar ben Fwêl Ery.

                           Heblaw hyn,gwelwn luoedd o ddefaid ac wyn y Preselau eu hunain yn ffeiriau Maenclochog,ond yr oedd hynny ychydig yn rhy ddyweddar ond am ddefaid mewn oed am fod y cyfnewidiad wedi digwydd (i fesur pell) cyn,dyweder,1895,pan oeddwn i yn ddeng mlwydd oed. Yr oedd gwell cyfle i weld cynrychiolaeth o hen ddefaid y Preselau mewn arwerthiadau ar ffermydd y mynyddau,am fod llawer o ddefaid magu i fyny hyd dros ddeng mlwydd oed yn cael eu gwerthu ynddynt.( Ni ddefnyddiwn ni’r geiriau “mamog” a “mamogiaid” am ddefaid magu). Un o’r rhai gorau o’r rhai hynny a welais i oedd arwerthiad yn y Fronlas pan yr oedd dros 800 i’w gwerthu yr un diwrnod er nad oeddyn yn “gwerthu allan”. Ond bum hefyd mewn llawer o arwerthiadau eraill gan ddechrau eu mynychu cyn i mi orffen yn yr ysgol-bob-dydd.

           Nid mynd i’r arwerthiadau hyn yn ddiancau ychwaith a wnaem o Budloy.Yr oeddem bob amser yn agored i brynu un neu ddwy hesben neu un neu ddwy ddafad (gwerthid hwy yn yr arwerthiadau llai,fynychaf,bob yn ddwy), os byddent yn ein taro,ac am bris nad oedd yn hollol afresymol,a pha fwyaf “mynyddig” y byddent,gorau oll gennyn ni o herwydd tuedd ein defaid ni yn Budloy oedd mynd yn rhy frȃs ac yn rhy feddal ac felly carem gael gwaed newydd o’r Preselau eu hunain i mewn yr awr ac yn y man er mwyn cael wyn benyw oddiwrthynt I ddod yn eu tro yn ddefaid magu. Yn un o’r arwerthiadau hyn y prynais i ddefaid gyntaf erioed ( ar wahan i un hesben a brynais  gan fy nhad rhai blynyddau cyn i mi orffen yn yr ysgol-bob-dydd).

Ychydig iawn o gyfeiriadau a geir yn hen lyfr cyfrifon fy nhad-cu am brynu defaid ond ceir ambell un,ond yr oedd fy nhad wedi arfer gwneud cyn fy nghof i er nad oedd yn gwneud hynny yn gyson fwy nag y gwnelem o fewn fy nghof i.

                                                                                                  Tybiaf y dylwn fod yn

cofio’r dydd pan y prynodd rhyw bedair dafad ar arwerthiad Dafi Dafis ym Mhantmeinog pan yr oedd hwnnw yn gadael pantmeinog ac yn mynd i fyw ym Mrynllechog,Llangolman. Rhaid mai defaid ifeinc oeddynt o herwydd cofiaf hwy gyda ni yn Budloy am amryw o flynyddau.

                                                         Dylwn fod wedi dweyd cyn hyn nad oedd yn arferiad gan ddefeitwyr y Preselau i werthu’r defaid magu ( y mamogiaid) pan yn bedair [ ] blwydd oed fel yr oedd ( ac y mae) ar rai o fynyddoedd eraill Cymru. Yn gyffredin, cedwid y defaid naill ai hyd nes y byddai eu dannedd wedi mynd yn hir neu yn rhwyllog,neu hyd nes y byddent farw, ac felly yr oedd hefyd yn Budloy. Ni gwn i beth oedd hyd oes dafad fynydd ond credaf yn sicr bod rhai o honynt yn byw i fod dros ddeng mlwydd oed.Nid oedd alw am ddefaid pedair oed yn ffeiriau Maenclochog. Yr oedd dafad pedair oed yn “ full mouth” fel y dywedai Saeson godre’r sir ac felly ni gellid bod yn sicr, o edrych ei dannedd,nad oedd eisoes yn chwech neu efallai wyth oed.

      Gellir cadw mewn cof hefyd mai yr arfer hyd tua

 

[MS 1152_0004]

1890 – 93 ar y Preselau oedd disbaddu’r wyn gwryw a’u cadw hyd ar ol eu cneifio pan ychydig dros flwydd oed,ac yna yn gwerthu hwy a’r rhai benyw o’r un oedran ac eithrio’r nifer o rai benyw a oedd yn ofynnol i gadw rhif y defaid magu i fyny i’r un lefel y naill flwyddyn ar ol y llall. Nid oedd yr hespynnod blwyd yn cyfhebu ar y mynydd,athipyn yn ddi-ddal am fagu oedd y rhai dwyflwyd a  clyda colledion wrth ŵyna.Digon tebyg hefyd y gwerthid mamogiaid hŷn a oedd wedi peidio magu oen y tymor hwnnw gyda maheryn a’r hespyrnod blwyd i fynd i’r troed isel i’w pesgu a hynny rhywle tua hanner olaf mis Gorfennaf neu hanner gyntaf mis Awst. Hwyrach,ambell dro,y gwerthid wyn yn y flwyddyn eu ganwyd,ond peth eithriadol iawn a fyddai hyn.

                                           Ni chlywais i son erioed ( hyd y blynyddau diweddar hyn) am ddanfon defaid o’r Preselau – nae ŵyn ychwaith- dros y gaeaf i diroedd isel.Ar y mynydd,mewn enw o leiaf,a’r rhan fwyaf o lawer o honydd mewn ffaith ar y mynydd yr oeddynt yn byw a bod haf a gaeaf, ond o tua dechrau Ionawr hyd rywbryd yn Ebrill caent ryddid i ddod i lawr i’r ychydig o dir caeëdig oedd yn perthyn i’r ffermydd a thir digon gwael a llwm oedd hwnnw.Ni gwn i am un ffarm ar y Preselau lle yr oedd “ffridd”neu “friddoedd” yn perthyn iddi. Os clywais i y gair neu ei weld ar bapur cyn i mi gyntaf adael Sir Benfro, ni wyddwn i ei ystyr.Hwyrach,felly,bod llawer o ddefaid ifeinc y Preselau yn mynd dros eu dwyflwydd oed cyn eu gwerthu.

                                                                                           Y mae’n wir bod ymhlith hen ddefaid y Preselau rai defaid a grwydrent ym mhell i’r tiroedd isel yn ystod y gaeaf ond cyfrau fechan iawn o’r holl ddwfaid oeddynt hwy. Bron bob gaeaf treuliai un neu ddwy o honynt wythnosau yn Budloy. Nid oedd dim holi yn eu cylch gennym ni na chau eu perchnogion hyd y gwanwyn oni fyddai son bod y clafr (mansh- scab) wedi torri allan yn rhywle ar y mynyddau a chofiaf un a’r clafr arni yn barod yn cyrraedd Budloy,ond cafwyd hi yng nghreigiau’r Syfnau cyn iddi gael cyfle i gymysgu a defaid Budloy. Er hynny,creodd bryder mawr am fod y clafr wedi dod i’r tir ond [deuwyd] o hyd i’w pherchenog mewn ychydig ddyddiau a symudwyd hi adref. Bu rhaid “dipo” defaid Budloy i gyd ond aros a wnaeth y pryder dros yr holl haf hwnnw. O’r pryd hwnnw,mi gredaf, a chyn bod rhaid swyddogol i wwneud,aeth yn reol yn Budloy i “dipo’r” defaid i gyd o leiaf unwaith yn y flwyddyn a’r “Dip” a ddefnyddiem oedd “ Cooper’s Sheep Dip” ac yr oedd hwnnw yn wenwynig iawn gan ei fod wedi ei seilio ar ryw halenau arsenaidd.Bu o fendith fawr yn Budloy er y gwaith a’r drafferth o herwydd cliriodd y llau o’r defaid yn llwyr, ond yn fwy na hynny cliriodd y trogod hefyd. Cliriodd hynny yn ei dro y “ dwr coch “ ymhlith yr wyn yn eu hydref cyntaf,a rywfodd neu’i gilydd,fe gliriodd y trogod oddiar y gwartheg hefyd er na daeth y dip i gysylltiad uniongyrchol a hwy,a pheidiodd y “ piso gwaed”. Ni chafais i esboniad cyflawn hyd eto ar hyn.

Nid wyf hyd yn hyn wedi dechrau disgrifio “ Hen Ddefaid y Preselau” ac wrth y rhai hynny golygaf defaid y Preselau cyn i’r cyfnewidiad a ddigwyddodd tua 1890-1893 ddod yn effeithiol. Cyfeiriais at y cyfnewidiad hwnnw mewn rhyw ysgrif arall ( ai yn “Y Parc Llafur”, “Gwyddor Gwlad”,1961?). Hwyrach i mi roddi’r argraff yno fod y cyfnewidiad wedi bod yn fwy sysdyn neu yn fwy trylwyr nag y bu mewn gwirionedd, o herwydd ni newidiwyd * y system yn gyfangwbl. Crewyllyn y peth oedd,bod blȃs pobl y trefydd wedi troi oddiwrth gig maharen ( a chyda ni,dyna oedd yr enw Cymraeg am mutton) at gig oen. Canlyniad cyntaf hyn oedd iddi fynd yn annodd i ffermwyr y tir isel werthu defaid tew dros flwydd oed,ac felly galwnt am wyn i’w pesgu o fis gorffenaf ymlaen.*  Gyda hynny, credent hwy bod ŵyn y Preselau yn rhy fychain a’u bod yn araf yn tyfu ac yn pesgu,a pho mwyaf mywyddig yr oeddynt yn ol (1) pa mor olau oedd eu hwynebau; (2) a oeddynt yn gorniog neu foel; (3) eu maint ddechrau mis Awst,a (4) faint o seithwlan oedd yn eu gwlan, lleiaf cymwys i’w pesgu yr oeddynt. Hynny yw,y galw gan y ffermwyr hyn oedd am wyn o ffrȃm fawr,yn foel eu pennau,eu hwynebau yn ddu,a’u gwlan yn gymharol ryd o seithwlan. Gyda hynny,cyfrifent bod oen du,llwyd,neu dorddu, yn tynnu yn ol o werth llocaid o wyn.

                                                                                              Ymateb sydyn

 *Gweler ysgrif 1964

 

[MS 1152_0005]

rhai o ddefeitwyr y Preselau i hyn oedd ymosod ar hyrddod y Preselau a disbaddu,nid yn unig eu rhai corniog,wyneb-wyn neu wyneb-oleu o’r iddynt hwy

 eu hunain ond rhai hefyd rhai yn perthyn i ddiadelloedd eraill. Sonid am y peth fel pe wedi digwydd “mewn un noson” ac iddo ddigwydd ym mhell ac yn agos ar hyd a lled y Preselau ond prin y gall bod hyn yn llythrennol wir er i’r effeithiau gyrraedd ymhell.

                                                                                                                               Gesodaf fi’r dyddiad tua 1890-1893 am y rheswm fy mod yn cofio gweld hyrddod penwyn corniog yn pori ar hyd ochr y ffordd yn agos i Ben Bwlch Gwynt a barnaf bod rhaid bod hynny cyn i’r peth ddigwydd,ac nid yw yn debyg y byddai y rhai hynny wedi dianc rhag y gyflafan.Nid yw yn debyg er hynny y beiddiai yr ymosodwyr hyn fynd i bob cynhefin defaid ac felly gellir disgwyl bod rhai hyrddod penwyn corniog wedi goroesi’r peth i genhedlu rhagor o’u bath hwy eu hunain,ond ni pharhaodd hyn yn hir.

 Fy nghof (ifanc) i am yr hyrddod hyn yn fwyaf arbennig yw eu cyrn ond er eu bod yn dieithr iawn i mi ar y pryd,nid oeddynt yn wahanol iawn i cyrn hyrddod Cymreig modern er bod gennyf fi yr argraff eu bod yn fwy o faint o dipyn ond nid o lawer yn gymaint a chyrn hyrddod y brîd “Wiltshire” neu “Western”. Yn 1911 y cofiaf fi weld hwrdd “Wiltshire Horn” am y tro cyntaf erioed a hynny ar ffarm Ty’n Pynfarch,ger Penrhyncoch sir Aberteifi. Yr oedd yn dioddef yn ddrwg gan bydredd yn y traed ac felly ni chefais lawer o drafferth i’w ddal a mesur ei [gyrn] –

O flaen y naill gorn yn syth ar draws y pen i flaen y corn arall = 22 modfedd,

Hyd y corn deau ar rhinyn uchaf ( yn nharddiad y corn) o’r bôn i’r blaen =29 1/2 modfedd,

Amgylchedd y corn deau yn ei fan braisgaf = 8 1/4 modfedd.

Un peth yw dweyd bod Hen Ddefaid y Preselau yn wahanol i bob defaid eraill; peth hollol wahanol yw ceisio disgrifio’r mamogiaid yn fanwl, neu ddisgrifio un o honynt yn fanwl a dweyd bod hynny yn ddisgrifiad o honynt oll neu o’r mwyafrif o honynt oblegid un o’u noddweddion pennaf oedd y mesur a’r math o wahaniaethau a welid yn eu plith.

        Ambell dro,elai rhywun i Lanybydder i brynu defaid, ac mewn cymhariaeth,ychydig iawn a wahaniaethai y rhai hynny oddiwrth ei gilydd – ond yr oeddynt yn wahanol i hen ddefaid y Preselau, a gallai defeitiwr y Preselau eu pigo allan ymhlith y llall. Rhaid cydnabod hefyd nad oedd defeitwyr y Preselau yn meddwl yn uchel o “ddefaid Llanybydder”.

                                                   Ond rhaid peidio osgoi y dyresbwnc fel hyn!

Gwyn oedd lliw gwlan y rhan fwyaf o lawer o hen ddefaid y Preselau,ond yr oedd math o nodyn o flew coch-du ar wegil oen bach gwyn yn hollol debyg i’r hyn sydd gan y defaid mynydd Cymreig yn gyffredin. Ond ceid hefyd ŵyn bach oedd cyn ddued a’r frȃn.Diau bod yno ddau fath sylfaenol o dda ond nis gellid gwahaniaethu rhwng y rhai hynny heb wybod pa fath epil a gynhyrchent,o herwydd dangosodd Fraser Roberts rywdro ( yn y “Welsh Journal of Agriculture”) y gall lliw du mewn oen neu ddafad fod naill ai yn “noddwedd drech” ( dominant character) neu yn “nodwedd encil” ( recessive character). Diau bod hefyd ffactorau etifeddegol eraill a benderfynai faint a pha fath newid a fyddai yn lliw oen du wrth ei fod yn tyfu a’r ddafad yn hereiddio. Gwahanol raddau o las-ddu a llwyd-ddu fyddai y rhan fwyaf o honynt ond byddai rhai yn troi yn fwy coch-ddu a byddai y rhai hynny, ar ol eu cneifio,yn dduach na’r lleill.

Trydydd math o liw hollol bendant ydoedd y “tor-ddu”. Yr oedd oen bach torddu yn un tlws dros ben. Yr oedd iddo wyneb yn gymysg o ddu a gwyn yn ol patrwm arbennig a phendant. Yna,odditan yr êr yr oedd y gwlan yn hollol ddu a rhedai y gwlan du yn ol odditan yr oen rhwng ei ddwy goes flaen,ar hyd ei [dorr] ac i fyny drachefn o’r tu mewn i’r ddwy goes ol hyd at fôn y gynffon gyda’r llinellau rhwng gwlan du y bol a gwlan gwyn y gweddill o’r corff – yr ochrau a’r cefn- yn hollol bendant.” Nodwedd encil” i wyn oedd y nodwedd “torddu” ond cofiaf un ddafad wen yn Budloy a oedd yn gymysgryw am y nowedd gyda rhith o batrwn y torddu yn ei hwyneb.

                                                                                         Ni chofiaf i mi erioed weled ymhlith defaid y Preselau batrwn go-chwith i’r torddu – patrwn y wynebau a phatrwn y corff oen neu ddafad ddu torwen ( Y [   ] Badger- Face Type y cyfeiriodd Fraser Roberts a [   ] [  ] rywdro yn y “ Welsh Journal of Agriculture” ,tua 1921),ond gall bod ambell un o honynt yma

 

 

[MS 1152_0006]

a thraw ar y Preselau heb i ni eu gweld na chlywed son am danynt.

Peth lled anghyffredin ymhlith ddefaid mynydd Cymreig yw bod y rhyw fenywaidd yn gorniog,ond yr oedd hynny yn gyffredin iawn ymhlith hen ddefaid y Preselau. Credaf bod rhagor na’u hanner yn gorniog,ond y mai yn rhy ddiweddar bellach i gael gwybodaeth bendant.

                                  ****[ 3 darlun o phennau  ddefaid]***

 Ni raid i mi gyfaddef nad wyf arlunydd ond ceisiais roddi rhyw syniad am y math o gyrn oedd gan rai o ddefaid ( mamogiaid) y Preselau ( neu gan lawer o honynt o ran hynny),ond ni chytunai cyrn pob mamog gydag unrhyw un o’r tri phatrwn hyn.Credai rhai o ddefeitwyr y Preselau bod mamogiaid corniog yn fwy “caled” ( h.y.y gallent ddal gaeafau caletach a byw ar borfa salach) na rhai moel.Yr oedd y cyrn hyn yn gryf wrth y pen a gellid dal dafad gerfydd ei chyrn yn hollol ddiberygl.Yr oedd y cyrn yn ddefnyddiol iawn er adnabod defaid oddiwrth ei gilydd.

                                                                                     Nodwedd arall oedd o werth mawr i adnabod defaid unigol oedd lliw eu hwynebau. Yr oedd wyneb hollol glaer wyn gan rai os nad llawer o honynt,ac yr eithaf arall yr oedd ambell un ag wyneb du cyfan.Rhwng yr eithafion hyn yr oedd gwahaniaethau di-ddiwedd o frithni golau iawn gyda dim ond ychydig o ddu ar flaen y trwyn,neu ychydig o wawl gochlyd ar y wyneb.Ar eraill,yr oedd y brithni,a allai fod o ddu-a-gwyn neu meddgoch ( coch-ddu) a gwyn,yn gwahaniaethu yn raddol iawn hyd at yr wyneb cyflawn-ddu.Gallai dafad o unrhyw liw o wyneb fod yn gorniog neu yn foel fel nad oedd y ddwy noddwedd ynghlwm wrth ei gilydd.

                                    Gwahaniaethent dipyn mewn maint a phwysau hefyd,ac yn eu gwlaniad,ond ar y cyfan,gwlan cynharol fyr a thyn oedd arnynt yn hytrach na gwlan hir a llac ( fel oedd yn gyffredin yn “ nefaid Llanybydder”). Gwahaniaethent hrfyd ym mha faint o seithwlan (kemp) oedd yn eu gwlan ond nid oedd hynny o lawer o help i adnabod defaid oedd yn rhedeg yn rhydd.

                                                                 Wrth gwrs,ar waethaf yr holl wahaniaethau hyn,gallai fod dwy neu ragor o famogiaid fod mewn dwy ddiadell neu ragor y byddai yn annodd iawn i’r perchenogion i’w hadnabod oddiwrth ei gilydd,a dyna paham y clust-nodid pob oen.Yr oedd rhai pobl gyda gwybodaeth helaeth iawn o’r clust-nodau,a’r hwn y byddem ni yn ymgynghor ag ef pan yr oedd dafad ddieithr ar ein tir a’r nod clust hefyd yn dieithr,ydoedd William (Evans?),Llwyncelyn (Llangolman?).

                                                                                                             Ychydig iawn yn fy nghof cynharaf i oedd yn defnyddio nodau eraill fel llythyren mewn pitch,neu “marnod coch” ar y gwlan,er bod hynny yn beth cyffredin ar ffermwyr y godreuon.

Gwell i mi yn awr geisio rhoddi disgrifiad manylach o rai o “ ddefaid y Preselau” a adwaenwn i yn dda yn naw-ddegau y ganrif o’r blaen ac ymlaen i ddechrau y ganrif hwn, o herwydd ar waethaf y newid a fu rhywle tua 1890-93,parhaodd llawer o’r hen deipiau ymlaen am flynyddau,ac y mae yn lled sicr gennyf bod rhai o ddefeitwyr y Preselau yn llechwraidd wedi cadw ambell hwrdd corniog,wyneb-golau er mwyn ceisio diogelu caledwch ar ol y gyflafau fawr ymhlith hyrddod o’r fath. Cadwai rhai o honynt hefyd,o fwriad,wyn benyw corniog i ddod yn famogiaid.

                                                                                      Cefais i y cyfle i sylwi yn fanwl ar gryn nifer o’r defaid hyn o herwydd bod fy nhad yn fy nhgof cyntaf ( ac ar ol hynny) yn arfer,yn awr ac yn y man ( nid yn gyson bob blwyddyn),a minnau yn fy nhro,yn arfer mynychu arwerthiadau ar ffermydd y Preselau i brynu dwy, neu efallai bedair,oen fenyw fynyddig neu famogiaid mynyddig i ddod i Budloy.Yr amcan ydoedd cael wyn benyw oddiarthynt i ddod yn famogiaid yn Budloy rhag i’r ddiadell yno fynd yn rhy feddal a brȃs i daro’r tir a’r sefyllfa.

                                                      Y cyntaf o’r rhai hyn a gofiaf fi yn bendant ac yn glir iawn oedd pedair a brynodd fy nhad ar arwerthiad a fu ym Mhantmeinog pan oedd Dafi Dafis yn ymadael oddiyno i fynd I fyw i Frynllechog,Llangolman. Dwy o’r rhai hyn a gofiaf fi yn dda a hynny,digon tebyg,am fod y ddwy hyn yn gorniog tra yr oedd y ddwy arall yn foel ond cofiaf mai wynebau golau-frith oedd gan y ddwy foel.

                                                   Rhaid bod y ddwy gorniog yn ifeinc pan brynodd fy nhad hwy o herwydd buont yn Budloy am rhai blynyddau a chofiaf hwy yn dda iawn. Rhaid bod y rhai hyn wedi eu cenhedlu cyn i’r cyfnewidiad ddigwydd o gwbl,ac yr oedd defaid

 

 

[MS 1152_0007]

 Pantmeinog yn ddefaid y Preselau mewn gwirionedd o herwydd y mae ty Pantmeinog (os yw o hyd yn sefyll) yn dyn wrth sawdl Moel Cwm [Cerwyn] ar y ochr orllewinol,a rhediad y defaid ar Foel Cwm [Cerwyn]- y talaf o’r Preselau- ei hun.

                                                    Yr oedd y ddwy ddafad gorniog hyn yn gwahaniaethu ychydig oddiwrth ei gilydd mewn maint ac mewn rhai nodweddion eraill ac adnabydden ni hwy fel “Dafad Gernig Fach Dafi Dafis”a “Dafad Gernig Fawr Dafi Dafis”.

         Credais i erioed, a chredaf heddyw, bod “Dafad Gernig Fach Dafi Dafis” yn cynrychioli teip sylfaenol “ Hen Ddefaid y Preselau”.Ni olyga hynny bod holl ddefaid y Preselau wedi bod rywdro yr un fath a hi ( er y gall hynny fod yn wir) ond ei bod hi yn teip eithaf o “ddafad mynydd” ac y gellid eu hadgynhyrchu drwy fod ŵyn yn ” taflu yn ol” at eu hynafiaid pell ac agos yn ol “gwaed eu rhieni. Ni wyddom pa rai sydd yn “nodweddion trech” a pha rai sydd yn “nodweddion” encil. Mwy na hynny,ni wyddom lai nad oes ffactorau etifeddegol hollol wahaol yn cynhyrchu yr un effaith fel y gwyddom fod gyda lliw du ( fel y dangosod Fraser Roberts yn un o gyfrolau y Welsh Journal of Agriculture) lle y mae un ffactor etifeddygol am ddu sydd yn gyfrifol am gynhyrchu lliw du sydd yn nodwedd drech, a ffactor etifeddegol arall am liw du sydd yn gyfrifol am liw du sydd yn nodwedd encil.

                                                                 Pan y dewisir wyn gwrnyw i’w cadw yn hyrddod o blith ŵyn y ddiadell ei hun, y mae digon o gyfle hyd yn oed mewn diadell fawr,i hwrdd a mamog sydd yn perthyn i’w gilydd, o bell neu yn agosach,i peidio a chael oen sydd yn wahanol i’r ddau o ganlyniad,ond gallai yr oen hwnnw ddangos nodweddion oedd yn ol yn y llinach yn rhywle.

                                                                        Digon tebyg mai rhyw gymblethiad felly o ffactorau etifeddegol oedd yn cyfrif am fod “Dafad Gerning Fach Dafi Dafis” yr hyn ydoedd hi. Ni welais i erioed “ddafad fynydd” dlysach na hi. Cofiaf hi yn arbennig iawn un tro yn sefyll ar warclaw ( cor-glawdd ?) Parc-y- lan Isaf a minnau wrth [rhifo’r] defaid yn agoshau i’w chyfeiriad hi.Yr oedd hi yn un o’r rhai gwylltaf o ddefaid mynydd,ac yn awr safai yn syth gyda’i phen yn uchel a’i llygaid yn pefrio a phob gewyn yn dyn yn barod i neidio ymlaen a rhuthro ymaith ar amrantiad os gwelai bod perygl. Byddai yn well gennyf erbyn hyn na llawer o bethau pe bae gennyf gamera ar y pryd a minnau wedi tynnu darlun o honi. I mi byddai y darlun hwnnw cystal ag un darlun o’r “ Monarch of the Glen” ag a welais i erioed.

                                                                                   Cafodd y teitl “Bach” yn unig am ei fod yn llai na’r ddafad gorniog arall – nid am ei bod yn eithriadol fechan. Yn ol ei henw,yr oedd yn gorniog ac yr oedd ei chyrn yn debyg i rai rhif 1(tud.5) ond na wnes i gyfiawnder cyflawn a hwy. Gwyn i gyd oedd ei lliw ac eithrio ei ffroen (diflew) a’i hewinedd. Nid oedd flewyn o wlan o’i gen i lawr ar hyd y geddf,rhwng ei phalfeisi,ar hyd a lled ei thor,nac i fyny rhwng y ddwy goes ol hyd at fôn ei chynffon – dim ond blew tyn a byr,yr un fath ag oedd ar ei hwyneb.Yr oedd ei gwlan yn fyr ac yn drwchus ond er hynny yn hollol hawdd i’w gneifio,ond,eto yr oedd llawer iawn o seith-wlan (kemp) gwyn ynddo. Nid oedd arni ddim seith- wlan coch,ac nid oedd wawr o gochni yn ei  hwyneb claerwyn. Pan fyddai o fewn diwrnod neu ddau i alu,ciliai oddiwrth y defaid eraill i unigedd creigiau’r Syfrau ( yn agos iawn i’r man lle y mae cronfa dwr Aber – dau- Gleddau erbyn hyn),ac ym mhen diwrnod neu ddau ar ol iddi alu,deuai yn ol at y defaid eraill a’i hoen bach gyda hi. Hwyrach mai tueddu yn ol tuagat ei hen gynhefin ym Mhantmeinog oedd ei greddf ond bod Creigiau’r Syfrau yn rhoddi iddi yr unigedd a fynnai ei gael at alu. Er bod llawer o ddefaid Budloy yn fwy eu maint na hi,nid oedd un a fagai well oen – yn wir,ofnaf na chadwyd gymaint ag un o’i hwyn benyw i ddod yn ddafad yn Budloy o herwydd,a’r cyfnod mor galed,rhaid oedd gwerthu yr wyn gorau i gyd er mai nid dyna’r bwriad.

                                                                                  Nid oedd yr un gwylltrwydd yn perthyn i “ Ddafad Gernig Fawr Dafi Dafis” er bod ei chyrn yn agos iawn yr un teip. Yr oedd hon yn drymach dafad gyd gwlan ar hyd ei thor a gwlan ei gwddf,ei phalfeisi a’i

[garrai] yn fwy rhywiog a chydag ond ychydig o seithwlan ynddo. Yr oedd hithau yn “ddafad mynydd “ dda ond yn llai eithrafol na “ Dafad Gernig Fach Dafi Dafis”. Heblaw hynny, wyneb- goleu- frith oedd gan yr un “fawr” gyda chylch cul iawn o ddu o amgylch ei ffroen a chylchau cul duon o amgylch ei dau lygaid.

                                                                                                   Y ddwy nesaf o “hen ddefaid y Preselau” a gofiaf.oedd dwy a brynodd fy nhad yn ddiweddarachh o’r Pantmawr ( ger Rhos -y- Bwlch ). Un wyneb – lwyd foel oedd un o’r rhai hyn a chyda gwlan ychydig yn hwy ac yn fwy llac na’r cyffredin o ddefaid y Preselau.Yr oedd y llall yn gorniog gyda chyrn rhywle rhwng 1 a 3 ( tud.5) ond yr oedd ei hwyneb hi yn gyfan-ddu. Yr oedd hon yn lled adnabyddus yn y cylch (er na wyddai fy nhad hynny) fel “ Y Ddafad a’r Jo”. Yr oedd ynddi hi i reddf i grwydro llawer yn ystod misoedd y gaeaf

 

[MS 1152_0008]

ar hyd ffermydd godreuon dehau y Preselau. Cafod yr enw, “Y ddafad a’r jo” am fod rhyw ddamwain wedi digwydd i gilddannedd un ochr i’w phen ac nid gallai gnoi ei chil yn yr ochr honno. O herwydd hynny,ymgasglai y borfa yn ei boch honno hyd nes y byddai ei chilfoch yn llawn ac yn chwydd allan- fel y byd boch un sydd yn cnoi ‘baco yn chwyddo allan pan y bydd jô fawr yn ei shilfoch. ( Methais ddod o hyd i air yn Bodfan a allai fod yn sylfaen i “shilfoch”. Dyna oedd y shilfoch : y lle gwag o’r tu mewn i’r foch rhwng y ddannedd a’r llygad,lle y cadwai y cnowr ‘baco ei “jo” – nid oedd ef yn cnoi a chnoi ar y baco i gael y sudd allan yn fuan o hono, ond cadwai y baco yn ei shilfoch yn gryno. Yno gwylchai y baco yn araf a deuai y sudd allan yn araf).

                                                                                                                       Ar ddydd yr arwerthiad yn y Pantmawr,hawdd ddigon oedd tynnu’r “jo” o borfa allan o safn y ddafad ac yna, er edrych a gweld bod ei dannedd blaen yn iawnnn,ni fyddai neb nad oedd yn adnabod y ddafad o’r blaen yn meddwl y gallai bod dim allan o le ar ei chil-ddannedd.

                 Y gaeaf cyntaf ar ol iddi ddod i Budloy,aeth ar goll. Disgwyliem ni mai wedi taro yn ol tuagat Pantmawr yr oedd,ond ni chafwyd gair o son am dani o unrhyw gyfeiriad er ei bod yn hawdd iawn ei disgrifio. Rywbryd tua  dechreu haf y flwyddyn nesaf daeth gair bod dafad ac oen,gyda’r ddafad yn ateb i disgrifiad o’r ddafad a’r jo,ar ryw ffarm yn agos i [Gasfuwch],tua thair milldir o Budloy,ac yno y cafwyd hi a’i hoen.

 

                            Y ddwy nesaf o “ hen ddefaid y Preselau” a ddaeth i Budloy oedd dwy a brynais i ar arwerthiad Tom Jones,Pantmeinog. Ni gallaf fi fod yn sicr, ond y tebyg yw mai ef a’i chwaer ( mab a merch Dafi Jones,Pantygollen – rhywle i gyfeiriad Llanwinio),a ddilynodd Dafi Dafis ym Mhantmeinog,ac er nad oedd defaid y Preselau yn rhwym wrth y tir,digon tebyg i Tom Jones brynu llawer o ddefaid Dafi Dafis am y byddent yn gyfarwydd a’r cynhefin. Beth bynnag,er bod hyn yn awr ar ol i mi orffen yr ysgol a rhywle tua *1904* (gallwn feddwl), yr oedd y ddwy ddafad hyn eto yn ol teip

*yn gywir 1905*              

 

 “hen ddefaid y Preselau”. Yr oedd y ddwy yn gorniog : un o honynt a chyrn crepach yn troi yn fyr tuag ymlaen (yn debyg i 2 tud.5) gydag wyneb llwyr- wyn,a’r llall a chyrn eithafol hir – yn dod allan yn isel,yn taflu yn ol ac yna i lawr a thrachefn ymlaen hyd gogyfer a’r llygaid neu ymhellach (yn debyg i 3 tud.5). Yr oeddynt yn gyror buredd dros ben. Ond brithlwyd oedd ei hwyneb hi.Cymharol fychain oedd y ddwy.Bu yn annodd ganddynt ymsefyddlu yn Budloy a hynny a roddodd i mi ryw syniad o’r hyn a fedrai y defaid mynydd bryn wneud. Deuthum o hyd iddynt – i’w golwg beth bynnag – ryw ddiwrnod ar dir y Ddolwen.Pan welsant fi a’r ci, i ffwrdd a hwy i mewn i allt goed Macaulay a throiwydd i yn ol i fynydd Budloy. Deuthum innau yn ol fwy neu lai ar eu holau ond trachefn pan welsant fi,i ffwrdd a hwy ar garlam gwyllt ar draws gwasted Parc- yr- Allt. O’u blaen,yr oedd clawdd wyneb-cerrig Parc-y-Pant yn agos i chwe throedfedd o uchder ond heb arafu dim neidiasant yn llwyr i ben hwnnw a throsto! Ni thybiwn i gallai defaid wneud y fath naid,ond ar ol hynny gwelais ddafad arall,bron o sefyll,yn neidio yn fwy serth o lawer a llawn mor uchel pan yn torri i mewn o’r mynydd i’r caeau.

              Yr oedd y ddwy hyn wedi eu cyfhebu cyn eu prynu ond,yn anffodus bu’r ddafad a’r wyneb gwyn a’r cyrn crefach farw yn sydyn o fewn ychydig ddyddiau cyn y byddai yn alu. Ni wyddwn i nemor ddim am ddoluriau defaid ond agorais hon er mwyn gweld pa fath oen a fyddai ganddi pe bae wedi byw. Yr oedd fy siom lawer yn fwy pan welais mai oen fenyw gydag wyneb goleufrith oedd ynddi.

                                                                                           Bu’r ddafad arall o honynt yn fwy llwyddiannus. Pan oedd yn adeg iddi hi alu y tro cyntaf,aeth hi ar goll oddiwrth y defaid ar noson eiraog ac yr oedd yn parhau i fwrw eira pan deuthum o hyd iddi yn y bore a’i hoen bach gyda hi “ mor iach a’r cricsyn” ynghanol yr eira yn y tir grug ar bwynt uchaf mynydd Budloy.

                                            Y mae yn ddiameu gennyf mai un o nodweddion pwysicaf “dafad fynydd” yw’r gallu i  “godi ei hoen” o dan amgylchiadau anffafriol. Golyga “codi ei hoen” yn yr ystyr dechnegol y defnyddid y geiriau,y gallu i gael oen bach newydd ei eni ar ei draed a’i osod i sugno. Yn rhyfedd iawn,cefais i yr argraff yn bendant bod hesben flwydd oed ( yn Budloy) yn rhagori yn hyn ar hesben ddwy flwydd nad oedd wedi magu oen yn ei blwyd ( h.y. pan oedd yn flwydd oed). Ni gwn i paham yr oedd hyn,ond yr oedd hesben ddwy flwydd yn fynych fel pe yn methu deall beth a ddylai wneud ac yn rhy fynych ymddangosai fel pe wedi brawychu ac er nad elai ymhell oddiwrth yr oen,yr oedd fel pe bai ofn arni fynd yn agos ato.

                                                                                             Ond gyda dafad brofiadol nid oedd,fynychaf,ddim trafferth ( er y byddef yn debyg,cyn gorffen,o gyfeirio at un eithriad arbennig). Cyn gynnted ag y byddai hanner flaen yr oen wedi dod drwy fwlch yr enedigaeth codai y fam ar ei thraed,a dechreuai lio ( lyfu) yr oen,gan ei wthio dipyn yma a thraw a’i thrwyn.                                                                                                                                                                                                            

 

 

[MS 1152_0009]

Symbylai hyn hefyd yr oen i ymwisgo a gwneud defnydd o’i goesau gwan,a buan,os oedd yr amgylchiadau yn ffafriol byddai yn gallu sefyll am foment ar ei bedair coes.Yr oedd y fam yn parhau i’w lio ac yn awr yn arbennig yn ei rannau ol a bôn y gynffon ac yr oedd hynny yn ei dro yn peri i’r oen i estyn allan ei wddf tuagat y ddafad a hithau yn lioi,os byddai galw,er mwyn i’w theth ddod i’r man lle yr oedd yr oen yn chwilio,a buan iawn y byddai yr oen yn dod o hyd i’r deth ac yn sugno am y waith gyntaf! Nis gallwn i lai na rhyfeddu at hyn bob tro y gwelwn ef yn digwydd,ond pa faint mwy oedd llwyddo ynghanol ystorm o eira ar y noethlwm fel pen uchelaf mynydd Budloy,a hynny ynghanol nos?

                     Ond rywfod fe wyddai y defaid hyn pethau na wyddom ni!

 

                                                                                                               [  Y niau] yn ddiameu gennyf wedi yr arfer ar y Presela yn adeg fy nghof cynharaf i ydoedd disbaddu yr wyn gwrryw ( ac eithrio y rhai y bwriadid eu cadw I fod yn hyrddod) tua dechrau mis Mai.Ni chlywais i erioed am ddanfon defaid nac wyn( ar eu diddyfnu) o’r Preselau i lawr gwlad dros y gaeaf,a’r mynydd oedd cartref pob llwdn dafad (safai “llwdn” gyda ni am ddafad o unrhyw ryw neu oed)[   ] os nad yn gyflawn o’r pryd y ganwyd ef hyd nes y gwerthid ef neu y byddai farw o ddolur neu o henaint.Nis gallaf ond casglu y gwerthid y rhai nad oeddynt i’w cadw yn famogiaid yn yr ail haf o’u bywyd a hynny tua mis Awst – dipyn ar ol cneifio. Hynny yw,yr oedd y rhan fwyaf o’r defaid a werthid tuag un-mis-ar-bymtheg oed,ond tua’r un adeg o’r flwyddyn,gwerthid hen ddefaid oedd a nam ar eu dannedd. Cynhwysai y defaid blwyddi a werthid feheryn ( wethers) ac hespynnod ( ewes that had not borne a lamb) a thrwy hynny cedwid nifer y defaid a gedwid dros y gaeaf o fewn terfynau lleol bendant o flwyddyn I flwyddyn. Pan na werthid y mamogiaid yn rheolaedd [pan] fyddent yn bedair oed,ac am y cedwid llawer o’r mamogiaid i fynd yn hen,dim ond cyfrau o’r defaid benyw blwydd oed oedd yn ofynnol i’eu cadw. Yr oedd mamogiaid hŷn yn fwy sicr o godi eu hwyn,ac,ar y cyfan,yn eu magu yn well.

                                        Soniais eisoes am ryw gyfnewidiad pwysig a ddaeth i ran defaid y Preselau tua 1890-93. Cyfeiriais at hynny mewn rhyw ysgrif arall hefyd,ond erbyn ystyried,gall bod yr hyn a ‘sgrifennais y tro hwnnw ychydig yn gamarweiniol os rhodais yr argraff bod yn cyfnewidiad yn sydyn ac yn drylwyr. Y stori ar lafar yn fynghof cynnar oedd bod y cyfnewidiad wedi digwydd mewn un tymor onid mewn un noswaith drwy i rywrai fynd ati i ddal a disbaddu pob hwrdd penwyn,corniog,y gallent ddod o hyd iddo o’r naill gwr o’r Preselau I’r llall gan adael heb eu disbaddu ond yr hyrddod moel wyneb-tywyll. Yr hyn a amhenaf yn awr yw,a fu’r gwaith creulon hwn mor eang ac mor drylwyr ag y tybid. Prin y mentrai y rhoi fu wrth y gwaith i bob cynhefin defaid heb ystyried pwy a biau’r defaid. Daliai rhai,ar waethaf yr amgylchiadau a byddai colli caledwch,yn y pen draw,yn fwy o golled na chael  pris llai dros dymor am yr wyn a werthid,a’u ffon-fesur hwy am galedwch oedd,yn beunaf,wyneb gwyn neu oleu-frith;cyrn ar y mamogiaid,a seith-wlan yn y gwlan.Yr oedd “ hen ddefaid y Preselau” yn hir-hoedlog,y mae’n wir,ond prin,gallwn i feddwl,y gellid disgwyl bod y defaid wyneb goleu a /neu gorniog mor niferus ac yr oeddynt ymhen tu deng mlynedd pe bae’r gwaith wedi bod yn grylwyr iawn. Nis gellir gwadu,er hynny,na fu’r ymdrech yn “llwyddiant” o’r safbwynt y funud a rhaid cyfaddef hefyd bod hynny yn bwysig iawn ar y pryd o herwydd y wasgfa.

                                                                                 Rhaid felly ystyried beth oedd achos y cyfnewidiad.

                               Am ryw reswm,( [tybia ] rhai mai o herwydd nad oedd cigyddion yn trin “cig maharen” (mutton) yn iawn – nad oeddynt yn ei hongian yn ddigon hir cyn ei werthu) aeth y galw am gig ifanc ac am gig oen yn arbennig, ac aeth y galw am ddefaid dros flwydd oed i’w pesgu yn wan iawn,a hynny ar adeg pan yr oedd prisiau cynnyrch ffarm ar eu gorau yn isel iawn. Heblaw hyn,gwyddai ffermwyr tir isel sir Penfro mai rhoi annodd eu cadw o fewn terfynau oedd defaid y Preselau fel yr oeddynt, yr wyn yn fychain fel ar ol eu pesgi ni wnaent lawer o bwysau.Credent bod cyrn,ac wynebau golau yn golygu anifeiliaid a oedd yn cynrychioli y teip gwadaf o honynt fel yr oeddynt yn barod i dalu mwy o bris am bocaid o wŷn yn ol amlder y pennau moel,tywyll,a fyddai ynddynt. Credodd rhai o ddefeitwyr y Preselau,felly,mai gorau po gyntaf y gellid cael pob oen a enid,yn foel ac yn wyneb-ddu,neu,o leiaf,yn wyneb tywyll-frith,ac i gynhyrchu y rhai hynny,rhaid oedd cael hyrddod moel wyneb-ddu.

      Ar y cyntaf,gwnai unrhyw oen gwrryw moel

 

 

[MS 1152_0010]

wyneb-dywyll oedd ar y Preselau y tro i’w gadw i fod yn hwrdd,ond oed hefyd i gael hyrddod oddiar ffermydd y godreuon,a’r prif beth wrth eu dewis oedd bod yr hwrdd yn foel ac wyneb-dywyll.

                                  Tybiodd rhai er hynny,y dylent wneud y peth yn y “ffordd iawn”    ( yn ol tyb hwy). Cofiaf fod yn yr Hendre,ger Crosswell,ryw dro yn y dyddiau hynny.Yr oedd gan ffarm y Hendre hawl i’r mynydd ond ni chymerodd fy ewythr,John Ifan,fantais o hynny. Gwell ganddo ef gadw defaid ar gaeau yr Hendre yn unig a’r rhai hynny yn ddefaid bras. Yr oedd brid y Shropshires wedi dod yn adnabyddus erbyn hyn a hwrdd Shropshire gyda ‘i wyneb du gwlanog a gadwai John Ifan bob amser. Y tro hwnnw euthum gydag ef i weld y defaid a gwelais bod yn eu plith ryw chwech neu wyth o ddefaid mynydd. Gofynnais iddo beth oeddynt ac esboniodd yntau mai defaid yn perthyn i rai o wyn y mynydd oeddynt a ddiygwyd i’r Hendre i’w croesi a’r hwrdd Shropshire fel y gallent fagu eu hwyn ar y mynydd agored yr haf nesaf a chadw pob oen gwrryw i fod yn hwrdd ar y Preselau.

                                                               Yn y cwbwl o hyn yr oedd y bwriadau yn ddigon da ond yr oedd y canlyniadau,yn y pen draw,yn drychinebus. Hyd yn hyn,yr oed wynebau defaid y Preselau yn hollol rydd o wlan oni fyddai ambell dro dusw bychan,bychan o wlan ar ganol y talcen. Yr oedd yr ŵyn ar eu genedigaeth hefyd a chôt o wlan cymharol hir a thyn drostynt. Nis gwn i yn bersonol beth oedd canlyniad uniongyrchol y croesi a Shropshire ond mewn achosion tebyg fe wn bod gwlan yr oen yn fyr a’r oen yn ddiymgeledd iawn pan enid ef fel y byddai lawer iawn yn fwy annodd i’r fam ei godi. Fe wn hefyd bod rhai o epil yr hyrddod croes- Shropshire hyn a llawer o wlan ar eu hwynebau,fel,ar adeg ystorom o eira,a’r eira hwnnw yn rhewi,yr oeddynt yn hollol ddall. Heblaw hynny,tuddent i fod yn fyr eu coesau a’r coesau hynny eto yn wlanog hud at yr ewinedd. Pa gyfle yn y byd oedd gan ddafad o’r fath i or-oesi y storom drwy gyrchu drwy’r storom i gysgod?

                                                                    Do,fe fu’r cyfnewidiad yn llwyddiant arwynebol dros amser byr,ond canlyniad pellach y cyfnewidiad oedd bod defaid y Preselau wedi dirywio yn gyflym iawn fel defaid mynydd.

                                                                                          Hawdd y gellid condemnio’r cwbl fel peth amnoeth a diwelediad ond nis gallaf fi,un a welodd ac a brofodd yr amgylchiadau,wneud hynny,o herwydd bod ceiniog “heddyw” yn fwy o werth na dwy geiniog “ymhen pum mlynedd”.

                                               Nid yw yn rhyfedd o gwbl bod yr “awdurdodau”,pan ddaethant i ystyried y pwnc o wella defaid y Preselau (tua 1920?) wedi eu condemnio yn ddidrugaredd.Ni wyddent hwy ddim am hen ddefaid y Preselau,ac nis gallent ond barnu y rhai oedd ger eu bron – defaid nad oeddynt,ar whahan i eithriadau prin iawn,yn “ddefaid mynydd” o gwbl.Ni wyddent hwy ychwaith mai defaid hollol dieithr i’r Preselau oedd yr hyrddod Cymreig ( swyddogol) a ddygwyd i mewn i wella’r sefyllfa. Y mae’r gwelliant a fu wedi hynny yn amlwg iawn,ond y mae fy hiraeth i am “ Hen Ddefaid y Preselau” fel y gwelais i hwy,yn aros.

                                                                          O ba le y daeth y rhai hynny yn y man cyntaf nis gellir ond dyfalu a digon tebyg bod cyfnewidiadau graddol wedi bod ar hyd y cenedlaethau (defaid) cyn y cyfnewidiad mewn hwnnw,ond yr oedd hefyd ddewis a dethol,rhannol “ naturiol” ar ran amgylchedd,a rhannol fwriadol yn ol syniadau y defeitwyr,yn cymryd lle. Clywais Tom Jones,Pantmeinog yn son am frid neu deip arbenning. Fy nghof i yw mai “defaid Llanllwni” y galwai ef hwy ond gall mai at hynafiaid brid “ Defaid Llanwenog” y cyfeiriai. Dywedodd Tom bod gwlan y rhai hynny yn gymharol rydd o seith-wlan;bod y mamogiaid yn gorniog,ond bod eu hwynebau yn dywyll-frith neu bron yn ddu neu goch-ddu,a bod llawer o ddefaid o’r teip hwn hefyd ar y Preselau.Un debyg i’r rhai hyn oedd y “ ddafad a’r jo”. Er hynny,credaf fi mai nid dyna fath gwreiddiol y Preselau,a bod,rhywfod,naill ai ddefaid neu hyrddod wedi dod o wahanol gyfeiriadau ac mai hynny oedd yn gyfrifol am y gwahaniaethau mawr yn lliw yr wyneb a nodweddion eraill.Gan fod y Preselau yn agored dros lawer o filldiroedd,gyda’r cenedlaethu yn dilyn yn gyflym y naill ar ol y llall,gallai dylanwad un hwrdd a oedd yn cynhyrchu epil a oedd yn taro’r Preselau gerdded ymhell. Yr oedd ambell hwrdd a’r elfen o grwydro ar amser rhidio yn gryf iawn ynddo a gallai un felly ddylanwadu yn fawr i greu rhyw undod sylfaenol yr holl ddefaid y Preselau a hynny heb eu gwneud yn unffurf. Ar yr un pryd,cadwai y gwilch hyn y gwahanol ddiaddelloedd rhag brido-i-mewn yn ormodol a than-seilio cyfansoddiad a chaledwch y defaid.

   Ysgrif heb ei chyflawn orffen – Tua 1860?       T.J. Jenkin.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw